Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ac mae'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi isod.

Pwrpas dros ymgynghori

Mae Cyngor Gwynedd, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ymchwilio i ymyriadau trafnidiaeth posibl a allai gael eu rhoi ar waith i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth ym mhentref Llanbedr.

Nod yr ymgynghoriad fu'n agored am 6 wythnos, oedd casglu adborth gan y gymuned leol, perchnogion busnes, a’r sawl sy’n ymweld â’r ardal ar y cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fel rhan o astudiaeth WelTAG Cam 2, sy’n cael ei chynnal gan WSP ac YGC, ar ran Cyngor Gwynedd.

Roedd eich adborth yn cael ei ddefnyddio i’n helpu i nodi opsiwn a ffefrir i’w ddatblygu’n ddyluniad mwy manwl a’i ddarparu yn y pen draw (yn amodol ar gyllid).

Mi fydd angen i chi agor yr opsiynau isod er mwyn gallu cwblhau'r arolwg:

Canlyniadau

Gweld canlyniadau'r ymgynghoriad (yn agor mewn tab newydd)


Mwy o wybodaeth

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Cysylltu â Thîm y Prosiect

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau heb eu ateb, neu os hoffech chi roi adborth nad yw’n cael ei gasglu gan yr arolwg, cysylltwch â thîm y prosiect drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

  • E-bost:  LlanbedrWelTAG@wsp.com.
  • Post:  At sylw:  Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau (Llanbedr), Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, LL55 1SH.