Newid i Rheoliadau Adeiladu o 1 Gorffennaf, 2026
O 1 Gorffennaf 2026 ymlaen, bydd newidiadau i reoliadau adeiladu yng Nghymru yn cyflwyno cyfundrefn diogelwch adeiladu newydd sy'n effeithio ar sut mae gwaith adeiladu yn cael ei ddylunio, ei gymeradwyo a'i wneud ar y safle.
Darllen mwy (yn agor mewn tab newydd)
Prif bwrpas Rheoliadau Adeiladu yw:
- sicrhau safonau rhesymol o iechyd a diogelwch ar gyfer pobl mewn neu o amgylch adeiladau
- cadwraeth ynni
- mynediad a chyfleusterau i bobl ag anableddau
Mae Caniatâd Cynllunio a Rheolaeth Adeiladu yn ddau beth cwbl ar wahân.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
- Canllaw ar rheoliadau adeiladu (yn agor mewn tab newydd)
- Gwaith dylunio ac adeiladu: bodloni'r gofynion adeiladu (yn agor mewn tab newydd)
Gwaith adeiladu sydd angen caniatâd
Bydd angen caniatâd Rheolaeth Adeiladu ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu, gan gynnwys:
- codi adeilad newydd, ailgodi adeilad presennol neu newid defnydd adeilad
- estyniad neu addasiadau i adeilad, gan gynnwys addasu ystafelloedd yn y to neu garej
- gosod, gwneud addasiadau neu estyniad i wasanaeth cyfyngedig neu ei osodiadau mewn adeilad
- gosod ffenestr(i) / drws (drysau) newydd
- addasiadau strwythurol megis tynnu wal neu bared sy’n cynnal pwysau
- gosod cyfarpar sy’n cynhyrchu gwres
- addasiadau i system ddraeniad adeilad
- ategwaith i’r sylfeini
- gosod a gwneud addasiadau i’r rhan fwyaf o gylchedau trydanol mewn tai
- addasiadau i fathau penodol o ‘elfennau thermol’ a gwasanaethau.
Mae’r lefelau diogelwch a safonau adeiladu sy’n dderbyniol wedi eu hamlinellu yn y Dogfennau Cymeradwy (Approved Documents).
Os nad ydych yn sicr os ydych angen caniatâd Rheolaeth Adeiladu, cysylltwch â ni.
Cyflwyno cais rheolaeth adeiladu
Mae gwahanol fathau o gais rheolaeth adeiladu. Fel arfer mae’n bosib i chi ddewis y math o gais y byddwch yn ei gyflwyno, ond mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o fanteision ac anfanteision pob opsiwn.
- Gweld Ffioedd Rheolaeth Adeiladu (yn agor mewn tab newydd)
- Gweld hysbysiad preifatrwydd Rheolaeth Adeiladu
- Gweld map cymunedau Rheolaeth Adeiladu (yn agor mewn tab newydd)
Dyletswyddau Cleientiaid, Dylunwyr a Chontractwyr
O 1 Gorffennaf 2026 bydd pob prosiect adeiladu yn ddarostyngedig i system deiliad dyletswydd newydd. Mae hyn yn golygu:
- Mae gan gleientiaid, dylunwyr a chontractwyr gyfrifoldebau cyfreithiol clir i sicrhau bod cydymffurfiaeth yn cael ei gyflawni
- Bydd angen i bob deiliad dyletswydd ddarparu datganiadau ysgrifenedig sy'n ymwneud â'u penodiadau a chydymffurfio.
Rhaid i bob prosiect waeth pa mor fach fod â Chleient, Prif Gontractwr Penodedig a Phrif Ddylunydd Penodedig. Rhaid i apwyntiadau fod yn ysgrifenedig a'u llofnodi.
- Datganiad Awdurdodi Cleientiaid Domestig (yn agor mewn tab newydd)
- Datganiad Awdurdodi Cleient (yn agor mewn tab newydd)
Rhaid i Gleientiaid Domestig (deiliaid tai) ohirio eu dyletswyddau fel deiliad dyletswydd i berson arall y maent yn credu sy'n gymwys i weithredu ar eu rhan, oni bai eu bod yn gwbl fodlon bod ganddynt y cymhwysedd angenrheidiol i ymgymryd â rôl deiliad dyletswydd eu hunain ac wedi llofnodi datganiad ysgrifenedig i'r effet hwnnw, y mae'n rhaid ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle. Mae Cyngor Gwynedd yn argymell bod cleientiaid domestig yn gofyn am gyngor proffesiynol cyn gwneud y penderfyniad hwnnw.
Cymhwysedd
Mae'r rheoliadau adeiladu bellach yn mynnu mai dim ond y rhai sy'n gallu dangos cymhwysedd ddylai gael eu penodi i ymgymryd â gwaith dylunio ac adeiladu. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r rheoliadau adeiladu yn gosod dyletswydd ar bawb sy'n ymwneud â'r prosiect o'r cychwyn cyntaf i'w gwblhau'n ymarferol (gan gynnwys y cleient domestig/deiliad tŷ) i sicrhau eu bod yn penodi pobl gymwys yn unig.
Dim ond trwy benodi pobl gymwys y gall y cleient a'u deiliaid dyletswydd penodedig fod yn fodlon y bydd cydymffurfiaeth â rheoliadau adeiladu yn cael ei gyflawni.
Mwy am sut i fodloni'r gofynion adeiladu (yn agor mewn tab newydd)
Dyletswyddau
- Cleientiaid (yn agor mewn tab newydd)
- Dylunwyr (yn agor mewn tab newydd)
- Contractwyr (yn agor mewn tab newydd)
- Prif gontractwyr (yn agor mewn tab newydd)
Cyngor Cynllunio Prosiect i wella eich Cartref
Am gyngor ar wella cartrefi, rheoliadau adeiladu, contractau, gweithio gydag adeiladwyr a dylunwyr, caniatâd cynllunio a llawer mwy, ewch i wefan LABC Front Door (yn agor mewn tab newydd).
Mae ateb i nifer o gwestiynau ar gael drwy ddefnyddio Gofyn i Anna ar wefan Front Door (yn agor mewn tab newydd)
Pan fydd gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle
Bydd Syrfëwr Rheolaeth Adeiladu y Cyngor angen archwilio’r gwaith ar y safle yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd â’r holl safonau adeiladu.
Mae’n hanfodol bod yr adeiladwr neu’r perchennog yn hysbysu’r Syrfëwr Adeiladu yn ystod camau penodol o’r gwaith. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad safle.
Diffiniad o "gwaith wedi cychwyn" (yn agor mewn tab newydd)
Dymchwel
Bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n bwriadu ymgymryd â gwaith dymchwel yn yr ardal i hysbysu Cyngor Gwynedd.
Darllen mwy am ddymchwel a chyflwyno hysbysiad dymchwel
Tystysgrifau cwblhau
Pam fydd y gwaith adeiladu wedi’w gwblhau yn unol a’r rheoliadau adeiladu; rhaid i'r bob ddeiliad dyletswydd, cleient, prif gontractwr a'r prif ddylunydd gyflwyno datganiad cydymffurfio wedi'i lofnodi i Reolaeth Adeiladu Gwynedd yn cadarnhau bod y gwaith yr oeddent yn gyfrifol amdano yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu hyd eithaf eu gwybodaeth.
Unwaith bydd Syrfëwr Rheolaeth Adeiladu yn fodlon bod yr holl archwiliadau priodol wedi eu cyflawni, byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau.
Y dystysgrif cwblhau yw eich sicrwydd fod y gwaith wedi ei archwilio gan Syrf ëwr Rheolaeth Adeiladu cymwysedig a chyn belled ag y gellir ei ddarganfod yn rhesymol, mae’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu priodol.
Iechyd a Diogelwch
Os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu adnewyddu, mae’n bosib y bydd angen i chi hysbysu yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch oherwydd mae’n bosib y bydd gennych gyfrifoldebau ychwanegol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yn agor mewn tab newydd).
Nwy Radon
Mae pob adeilad yn cynnwys radon ond mae'r lefelau yn isel fel arfer. Mae cyfleoedd lefel uwch yn dibynnu ar y math o lawr. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cyhoeddi map yn dangos lle mae lefelau uchel yn fwy tebygol yng Nghymru a Lloegr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Nwy Radon (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltu â ni
- Ffôn: 01286 685011 / 01286 685012
- E-bost:
RheolaethAdeiladu@gwynedd.llyw.cymru - Post: Pencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH