Pam ein bod angen eich gwybodaeth:
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn prosesu:
- Ceisiadau Cynlluniau Llawn
- Ceisiadau Rhybudd Adeiladu
- Ceisiadau Tystysgrif Rheoleiddio
- Ceisiadau Gosod Ffenestri a Drysau
- Hysbysiad Dymchwel
- Hysbysiad Adeilad Peryglus
- Ceisiadau Enwi Tai a Strydoedd
Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth:
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol o dan y Ddeddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu 2010 i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth:
Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda thrydydd parti oni bai fod y gyfraith yn caniatáu iddynt gael mynediad ato.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth:
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am o leiaf 15 mlynedd yn unol â chanllawiau’r Ddeddf.
Eich hawliau:
Mae gennych hawl i weld y wybodaeth sydd gennym arnoch chi a’r hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau neu os hoffech gwyno am sut yr ydym wedi trin ein gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data trwy e-bost i swyddogdiogeludata@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01766 771000.
Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (yn agor mewn tab newydd) os credwch nad ydym yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â’r gyfraith.