Cyflwyno cais cynllunio

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais cynllunio ar y we drwy ddefnyddio gwefan Ceisiadau Cynllunio Cymru.

Mae Ceisiadau Cynllunio Cymru yn wefan genedlaethol ar gyfer cyflwyno ceisiadau cynllunio a rhannu gwybodaeth gynllunio yng Nghymru. Mae'r wybodaeth a'r gwasanaethau mae'n eu cynnig yn benodol ar gyfer perchnogion tai, busnesau, gweithwyr proffesiynol cynllunio a swyddogion llywodraeth leol.

Ceisiadau Cynllunio Cymru - gwneud cais ar-lein (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cyngor Gwynedd wedi integreiddio'n llawn â Cheisiadau Cynllunio Cymru a bydd yn derbyn copi o bob cais, cynllun a thaliad a gyflwynir yn electroneg.


Copiau papur o'r ffurflenni cais

Os ydych yn dymuno argraffu ffurflenni cais, gallwch gyflwyno'ch cais yn uniongyrchol i ni drwy e-bost, trwy'r post neu unrhyw Siop Gwynedd.

Noder, os ydych yn cyflwyno'ch cais ar bapur, mae'r ffurflen gais yn gofyn i chi gyflwyno 3 copi o bob dogfen yr ydych yn ei chyflwyno. I leihau gwastraff, nid yw Cyngor Gwynedd ond angen 2 set ar gyfer pob cais.

COFIWCH! Os yw eich datblygiad y tu mewn i Barc Cenedlaethol Eryri, bydd angen i chi gysylltu efo nhw, nid Cyngor Gwynedd.

Cwestiynau cyffredin