Wrth gyflwyno cais cynllunio byddwch angen cyflwyno mapiau a chynlluniau o'r datblygiad / safle. Os ydych yn cyflwyno eich cais drwy asiant / pensaer, mae'n bosib y byddant yn trefnu hyn ar eich rhan.
Mapiau
Gyda phob cais cynllunio mae’n rhaid cyflwyno cynllun lleoliad ar fap i raddfa 1:1250 neu 1:2500 sy'n dangos y safle a’i ffiniau.
Bydd angen amlinellu safle'r cais yn glir mewn COCH ar y map. Dylai gynnwys yr holl dir sydd ei angen ar gyfer cwblhau'r datblygiad arfaethedig gan gynnwys mynediad, tirlunio a meysydd parcio.
Bydd angen rhoi llinell LAS o amgylch unrhyw dir arall o eiddo'r ymgeisydd sy'n agos i'r safle neu sy'n ffinio arno.
Sut mae prynu map?
Gallwch brynu mapiau drwy wefan y Porth Cynllunio (yn agor mewn tab newydd) neu gan yr asiantaethau sydd wedi eu hawdurdodi gan yr Ordnance Survey Superplan (yn agor mewn tab newydd).
Cynlluniau
Gyda phob cais cynllunio bydd angen cyflwyno:
- Cynllun lleoliad (graddfa 1:1250 neu 1:2500) - manylion uchod
- Cynllun bloc arfaethedig (1:200 – 1:500)
- Cynlluniau llawr presennol ac arfaethedig (1:50 – 1:100)
- Gweddluniau (elevations) presennol ac arfaethedig (1:50 – 1:100)
- Trawsluniau (cross-sections) safle presennol ac arfaethedig (1:50 – 1:100)
Fel arfer, asiant / pensaer fydd yn darparu'r cynlluniau hyn.
Mwy o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni:
- Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi. - Ffôn: 01766 771000