Byddwch angen caniatâd cynllunio os ydych am addasu adeilad, darn o dir neu adeiledd parhaol (fel wal) a bod angen i chi wneud gwaith adeiladu i gyflawni hyn. Byddwch hefyd angen caniatâd cynllunio os bydd y gwaith yn newid y ffordd y mae adeilad neu’r tir yn cael ei ddefnyddio.
Mwy o wybodaeth am ddatblygiadau sydd angen caniatâd cynllunio
Mwy o wybodaeth am ddatblygiadau a ganiateir
Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio
Cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol rydym yn awgrymu’n gryf iawn eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth 'Cyngor cyn gwneud cais'.
Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio (yn agor mewn tab newydd)Sut alla i elwa o’r gwasanaeth hwn?
Gallwn gynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol i chi ar y materion amrywiol rydych angen eu hystyried cyn gwneud cais, gan gynnwys:
- rhoi eglurder, ac adnabod yn gynnar yn y broses y polisïau / safonau / ffactorau sy’n berthnasol i’ch datblygiad
- eich helpu i gyflwyno cais cyflawn a fydd yn osgoi oedi yn ystod y cofrestru / dilysu
- eich cynghori i baratoi cais ddylai, os ydych yn rhoi ystyriaeth lawn i’r cyngor a roddwyd, gyflymu’r broses o benderfynu eich cais
- arwain at ostyngiad yn yr amser a dreulir gan ymgynghorwyr proffesiynol yn ogystal ag arbed costau, wrth iddynt baratoi cynigion
- eich cynghori pan fo egwyddor y datblygiad yn annerbyniol, gan arbed y gost o wneud cais i chi
Beth yw trefniadau a chost y gwasanaeth?
Ceisiadau mawr a chymhleth
Mae'r drefn ychydig yn wahanol gyda cheisiadau cynllunio mawr iawn neu gymhleth iawn: Rhagor o fanylion
Datblygiadau sydd angen caniatâd cynllunio
Fel arfer, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i:
- godi adeilad newydd
- estyn neu addasu adeilad
- gwneud newidiadau i’r ffordd y caiff adeilad ei ddefnyddio, er enghraifft troi tŷ’n fflatiau neu droi adeilad diwydiannol yn gartref
- gwneud gwaith peirianneg neu waith arall, fel carthffosiaeth
- dymchwel adeilad neu adeiledd
- cyflawni gwaith ar adeilad rhestredig
- cyflawni gwaith mewn ardal gadwraeth
- cyflawni gwaith ar goed a ddiogelir neu goed mewn ardal gadwraeth
- codi adeiladau amaethyddol newydd.
Datblygiadau a ganiateir lle nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch
Gallwch gwneud rhai mân welliannau, addasiadau ac estyniadau i’ch tŷ heb fod angen caniatâd cynllunio i’w cwblhau. Gall y rhain gynnwys mathau penodol o bortsh, heuldai gwydr o faint penodol a rhai addasiadau mewnol. Mae arweiniad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os ydych dal yn ansicr a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio.