Cludiant dysgwyr sy'n derbyn addysg uwchradd

Gweld amserlenni bysus ysgol

Gallwch wneud cais am gludiant am ddim os yw’r holl bwyntiau canlynol yn berthnasol i’ch plentyn:

  • mae eich plentyn yn byw yng Ngwynedd
  • mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol neu safle ysgol agosaf, neu’r ysgol neu safle ysgol yn eich dalgylch
  • mae’r daith i’r ysgol neu safle ysgol yn fwy na 3 milltir - mae'r siwrnai o’r cartref i’r ysgol neu safle ysgol yn cael ei fesur fel y daith fyrraf ar hyd llwybr saff.
  • mae eich plentyn o dan 16 oed ar 31 Awst

Mae disgwyl i ddysgwyr sy'n derbyn addysg uwchradd (ac eithrio’r disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau) gerdded hyd at 2 filltir i gyfarfod ag unrhyw gludiant sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd.

I gael cludiant am ddim rhaid i ddisgyblion gydymffurfio â'r cod ymddygiad ar gyfer cludiant ysgol. Cyfrifoldeb rhieni / gwarcheidwaid yw sicrhau bod eu plant yn cydymffurfio â'r cod ymddygiad. Mae peidio â chydymffurfio yn gallu arwain at golli'r hawl i gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol. Os yw disgybl yn colli'r hawl i gludiant am ddim, rhaid i'r rhieni / gwarcheidwaid dalu am gludiant o'r cartref i'r ysgol. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar Cod ymddygiad wrth deithio

 

Sut ydw i’n gwneud cais am gludiant am ddim?

Dylai disgyblion sydd yn gymwys i dderbyn tocyn cludiant am ddim dderbyn y tocyn hyn o fewn wythnos gyntaf y flwyddyn addysgol. Os nad ydynt, am unrhyw reswm, wedi derbyn tocyn o fewn yr amser hyn gellir gwneud cais ar-lein: 

Am unrhyw wybodaeth ychwanegol am gludiant ysgol, cysylltwch â ni ar 01766 771 000.