Cludiant dysgwyr sy'n derbyn addysg cynradd

Gweld amserlenni bysus ysgol

Gallwch wneud cais am gludiant am ddim os yw’r holl bwyntiau canlynol yn berthnasol i’ch plentyn:

  • mae eich plentyn yn byw yng Ngwynedd
  • mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol neu safle ysgol agosaf, neu’r ysgol neu safle ysgol yn eich dalgylch
  • mae’r daith i’r ysgol neu safle ysgol yn fwy na 2 filltir - mae'r siwrnai o’r cartref i’r ysgol neu safle ysgol yn cael ei fesur fel y daith fyrraf ar hyd llwybr saff
  • ddim yn ddisgybl dosbarth meithrin 

Mae disgwyl i ddysgwyr sy'n derbyn addysg cynradd (ac eithrio’r disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau) gerdded hyd at 2 filltir i gyfarfod ag unrhyw gludiant sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd.

Ble nad yw’n bosib agor ysgol am gyfnod o amser gweithredir trefniadau cludiant dros dro – ewch i Atodiad Polisi Cludiant Ysgolion – sefyllfa methu agor ysgol

I gael cludiant am ddim rhaid i ddisgyblion gydymffurfio â'r cod ymddygiad ar gyfer cludiant ysgol. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y Côd ymddygiad wrth deithio. 

 

Gwneud cais am gludiant am ddim

 Am unrhyw wybodaeth ychwanegol am gludiant ysgol, cysylltwch â ni ar 01766 771 000.