Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd lleol gyda Panel Adolygu Lleol i drafod opsiynau posib ar gyfer ysgol newydd yng Nghricieth, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod ar 13 Hydref 2020 i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle newydd, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn falch iawn o sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif ar gyfer adeiladu ysgol newydd yng Nghricieth. Golygir hyn y bydd plant Cricieth yn gallu mwynhau derbyn eu haddysg mewn adeilad modern sy’n addas i’w bwrpas ar gyfer addysgu a dysgu yn yr oes fodern hon.”
Rhagwelir y bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn ogystal ac unrhyw rai eraill i gyflwyno sylwadau ar y cynnig.