Ysgol Felinwnda
Ar sail CYBLD (Cyfrifiad Ysgolion Blynyddoedd ar Lefel Disgyblion) Ionawr 2023, Ysgol Felinwnda yw’r ysgol leiaf yn y sir, gyda dim ond 8 o ddysgwyr. O ganlyniad, bu i’r Adran Addysg gyflwyno adroddiad i Cabinet ar 11 Gorffennaf 2023 yn gofyn am ganiatâd i gynnal cyfnod gwrthwynebu statudol ar y cynnig i gau Ysgol Felinwnda yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a chod statudol Llywodraeth Cymru (Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018).
Mae adran 48(3) Deddf 2013 yn darparu nad yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i gynigion i gau ‘ysgol fach’ fel y diffinnir yn y Ddeddf, ac mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018 yn darparu:
“Os oes gan ysgol lai na 10 disgybl cofrestredig (neu os nad oes unrhyw ddisgyblion ar ôl mewn ysgol) pan gynhelir y cyfrifiad ym mis Ionawr, mae Deddf 2013 yn caniatáu i gyrff llywodraethu/awdurdodau lleol ddilyn gweithdrefn symlach er mwyn cau’r ysgol yn swyddogol.
Yr unig beth y byddai’n ofynnol iddynt ei wneud o dan y weithdrefn honno fyddai cyhoeddi’r hysbysiad cau – byddai’r gofyniad i ymgynghori’n gyffredinol yn cael ei hepgor, cyhyd â bod digon o leoedd mewn ysgolion cyfatebol wedi'u nodi a fyddai'n rhesymol hygyrch i’r disgyblion hynny sydd wedi’u dadleoli neu a allai gael eu dadleoli.”
Gan fod llai na 10 o ddysgwyr cofrestredig yn Ysgol Felinwnda yn CYBLD Ionawr 2023, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu’r awdurdod i ddilyn gweithdrefn symlach er mwyn cau’r ysgol. Yn benodol, mae’r gofyniad i ymgynghori’n gyffredinol yn cael ei hepgor, a’r unig beth fyddai’n ofynnol ei wneud fyddai cyhoeddi’r hysbysiad statudol.
Penderfyniad y Cabinet
Yn dilyn trafod cynnwys yr adroddiad a gwrando ar sylwadau’r Aelod Lleol bu i'r Cabinet benderfynu:
- Cymeradwyo cychwyn y broses i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023 o dan adran 43 Deddf Safonau a Threfniadaeth (Cymru) 2013.
- Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol, ar y cynnig i gau Ysgol Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, gan ganiatáu cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024.
- Cymeradwyo trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n cynnig cludiant am ddim i’r disgyblion hynny sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda, i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r ysgolion hynny, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd.
- Yn amodol ar benderfyniad y Cabinet ynglŷn â’r cynnig i gau Ysgol Felinwnda, caniatáu cynnal adolygiad o ffiniau dalgylchol ysgolion sy’n ffinio dalgylch presennol Ysgol Felinwnda.
Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar 5 Medi 2023.
Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 4 Hydref 2023.
Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw’r Pennaeth Addysg:
Cyngor Gwynedd,
Swyddfa’r Cyngor,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1SH
neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg:
moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru
Yn dilyn cynnal y cyfnod gwrthwynebu, bydd adroddiad gwrthwynebu yn cael ei gyflwyno i Cabinet er mwyn iddynt ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir cyn dod i benderfyniad terfynol.