Ysgol Abersoch

Mae’r penderfyniad i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022 bellach wedi ei weithredu.

 

Cabinet 9 Tachwedd 2021

Yn ei gyfarfod ar 9 Tachwedd 2021, yn dilyn rhoi ystyriaeth gofalus i sylwadau’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, bu i’r Cabinet benderfynu peidio addasu’r penderfyniad a wnaethpwyd ar 28 Medi 2021, a chadarnhawyd yn derfynol y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021 a chynnig lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022.

Mae’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 9 Tachwedd 2021 a 28 Medi 2021 yn ymhelaethu ar y cefndir, a’r broses statudol gan gynnwys yr ymgynghoriad a’r cyfnod gwrthwynebu, yn ogystal a’r wybodaeth am gyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet i’w ailystyried gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi. Mae’r adroddiad wedi ei gyhoeddi ar dudalen y Cabinet 9 Tachwedd 2021 (eitem 4).  

 

Mwy o wybodaeth:

Yn unol â phenderfyniad Cabinet 15 Mehefin 2021 (gweler Cyfnod Gwrthwynebu isod), cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022. Cyhoeddwyd y rhybudd ar 25 Mehefin 2021 gan ganiatáu 28 diwrnod i unrhyw un wrthwynebu'r cynnig erbyn 23 Gorffennaf 2021.  

Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018 mae Adroddiad Gwrthwynebu wedi ei greu sy’n grynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu ac ymateb y Cyngor iddynt. 

Cafodd yr adroddiad hwn ei drafod yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd ar 28 Medi 2021 a bu i’r Cabinet gadarnhau yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.  

Mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r Cyngor ar 21 Hydref 2021, rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniad Cabinet y Cyngor i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022.

Yn dilyn ystyriaeth fanwl, pleidleisiodd y pwyllgor o blaid cyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet i’w ailystyried. 

Gweld cofnodion llawn y cyfarfod.  

Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn ymwneud ag Ysgol Abersoch, adroddwyd i Gabinet y Cyngor ar 15 Mehefin 2021.

Penderfynodd y Cabinet:

Yn dilyn ystyried yr adroddiad, penderfynodd y Cabinet:

  1. Cymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022. 
  2. Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) uchod yn unol a gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. 

Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar 25 Mehefin 2021.

Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 23 Gorffennaf 2021. 

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw’r Pennaeth Addysg: 

Cyngor Gwynedd, 
Swyddfa’r Cyngor, 
Caernarfon, 
Gwynedd, 
LL55 1SH 

neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg:
moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru 

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori statudol rhwng 12 Ionawr a 23 Chwefror 2021 ar y cynnig i gau Ysgol Abersoch, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach. 

Mae’r adroddiad ymgynghori bellach wedi ei chyhoeddi a bydd yn cael ei thrafod gan Cabinet Cyngor Gwynedd ar 15 Mehefin 2021.  

Gweld yr adroddiad a’r atodiadau perthnasol, gan gynnwys dadansoddiad o’r ymatebion a dderbyniwyd.

Yn ei gyfarfod ar 15 Medi 2020, ac yn ddiweddarach ar 3 Tachwedd 2020, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd benderfynu cefnogi’r argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021, yn unol a gofynion adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013.

Bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn rhedeg o 12 Ionawr 2021 hyd at 1pm ar 23 Chwefror 2021.

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol, pecyn cefndirol a’r holl ddogfennau perthnasol ar gael isod:

Os ydych angen copïau caled o unrhyw ddogfen mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679247 neu e-bostiwch moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru 

Ar 3 Tachwedd 2020 bu i Gabinet Cyngor Gwynedd gwrdd i drafod argymhelliad y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ynglŷn â phenderfyniad y Cabinet ar 15 Medi 2020, parthed Ysgol Abersoch. Gweld cofnodion y cyfarfod. 

Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaeth fanwl, penderfynodd Cabinet y Cyngor: 

“... na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol  y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn  Bach o 1 Medi 2021 ymlaen a mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol” 

 

Beth yw’r camau nesaf? 

Fel y camau nesaf, byddwn yn trefnu i gynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 a chanllawiau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018. Golyga hyn y bydd dogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi a bydd cyfle i unrhyw un gynnig sylwadau ysgrifenedig ar y cynnig arfaethedig. Bydd y cyfnod yma yn para oddeutu 6 wythnos (rhaid rhoi o leiaf 42 o ddiwrnodau i bobl ymateb i’r ddogfen, gyda 20 o’r rhain yn ddiwrnodau ysgol).

Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf.

Yn dilyn hynny, bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet er mwyn adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, ac ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd. Bydd yn ofynnol wedyn i’r Cabinet ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad, a phenderfynu a ddylid cyhoeddi Rhybudd Statudol ar y cynnig a ymgynghorwyd arno ai peidio.  

Mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r Cyngor ar 8 Hydref 2020, rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniad Cabinet y Cyngor i gynnal ymgynghoriad statudol ar gynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch. 

Yn dilyn ystyriaeth fanwl, pleidleisiodd y pwyllgor o blaid anfon y mater yn ôl i'r Cabinet i’w ailystyried. 

Gweld cofnodion llawn y cyfarfod. 

Yn ei gyfarfod ar 15 Medi 2020, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd benderfynu cynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 ac i ddarparu lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen. 

Daeth hyn yn dilyn cyfnod o drafodaethau manwl gyda chorff llywodraethol Ysgol Abersoch yn sgil niferoedd isel o ddisgyblion, gyda dim ond 10 o blant yn mynychu’r ysgol ym mis Medi 2020. Rhagwelir y bydd y niferoedd yn parhau’n isel dros y tair blynedd nesaf.  

Eitem 5 

Yn ei gyfarfod ar 17 Medi 2019, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd ganiatáu’r Adran Addysg gynnal trafodaethau ffurfiol gyda chorff llywodraethol  a budd-ddeiliaid perthnasol eraill Ysgol Abersoch, i alluogi llunio ystod o opsiynau posibl yn ymwneud a dyfodol yr ysgol, yn sgil pryderon ynghylch niferoedd disgyblion yr ysgol.
Eitem 7

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 17 Medi 2019, sefydlwyd Panel Adolygu Ysgol (PAY) i drafod sefyllfa’r ysgol, ynghyd ag ystyried yr opsiynau posib gyda rhan-ddeiliad yr ysgol.