Premiwm Treth Cyngor - Eiddo gwag a diddodrefn
Mae Adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ychwanegu Adran 12A i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 er mwyn cynnwys darpariaeth ddewisol i gynghorau i godi “premiwm” o ddim mwy na 100% ar eiddo gwag hir dymor.
Penderfynodd Cyngor Gwynedd ar 8 Rhagfyr 2016 y bydd yn codi premiwm o 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag a diddodrefn am 12 mis neu fwy, o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n nodi eithriadau penodol lle na ellir gosod premiwm Treth Cyngor, rhestrir y rhai hynny isod:
eiddo
Dosbarthiadau o Eiddo | Diffiniad |
Dosbarth 1 |
Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar werth - gyda therfyn amser o un blwyddyn |
Dosbarth 2 |
Eiddo sy'n cael eu marchnate fel rhai ar osod - gyda therfyn amser o un blwyddyn |
Dosbarth 3 |
Anecsau sy'n ffurfio rhan, neu sy'n cael eu trin fel rhan o'r prif eiddo |
Dosbarth 4 |
Eiddo a fyddai'n unig neu yn brif breswylfa rhywun sydd yn byw yn llety'r Lluoedd Arfog |
*Mae'r cyfyngiad amser o flwyddyn ar gyfer Dosbarth 1 a Dosbarth 2 yn effeithiol nawr – h.y os yw eiddo ar werth neu ar osod nawr, yna mae`r cyfnod 12 mis wedi cychwyn o`r dyddiad y rhoddwyd yr eiddo ar y farchnad.
Bydd y premiwm yn dod i rym ar, neu ar ôl, 1 Ebrill 2018 – yn ddibynnol ar pryd mae 12 mis wedi mynd heibio o`r dyddiad y daeth eich eiddo yn wag. Bydd rhai eiddo o fewn y cyfnod 12 mis yma cyn 1 Ebrill 2018, unai wedi eu eithrio ar hyn o bryd, neu yn talu 100% Treth Cyngor Eiddo Gwag Hir Dymor.
Byddwch angen gwybod y dyddiad pryd daeth eich eiddo yn wag – bydd dyddiad dechrau codi premiwm yn dibynnu ar hyn.
Cofiwch os oes newid amgylchiadau ar unrhyw adeg yna rhaid i chi hysbysu y Cyngor gan y bydd yn effeithio yr uchod.
“enghreifftiau o ddosbarthiadau eithro a dyddiad dechrau premiwm eiddo gwag”
Tai gwag – help sydd ar gael
Os oes gennych eiddo gwag ac yn dymuno gwneud rhywbeth gyda`r eiddo ond angen cymorth, cysylltwch a Thîm Tai Gwag Cyngor Gwynedd.
Manylion cyswllt:
E-bost: taigwag@gwynedd.llyw.cymru
Ffôn: 01341 424371