Ail Gartrefi, Eiddo wedi ei ddodrefnu sydd ddim yn brif breswylfa, a premiwm
Cyfeirir yma at eiddo ble nad oes neb yn byw yno ond sydd wedi ei ddodrefnu, ag eithrio
- carafannau gwag
 
- eiddo sydd wedi'u dodrefnu ond yn wag oherwydd mae gan y perchennog gyfrifoldeb i dalu Treth Cyngor mewn eiddo arall yn gysylltiedig â'i waith
 
- eiddo sy'n wag lle bo'r sawl sy'n gyfrifol i dalu yn gynrychiolydd personol y cyn-breswylydd ymadawedig a lle bu llai na 12 mis ers i'r ewyllys gael ei brofi neu i lythyrau gweinyddu gael eu cyflwyno
 
- aelodau o'r lluoedd arfog y mae'n angenrheidiol iddynt fyw mewn eiddo a ddarparir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn gwneud dyletswyddau eu swydd. 
 
Mae  Adran 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cynnwys darpariaeth ddewisol i gynghorau i godi “premiwm” o ddim mwy na 100% ar ail gartrefi ( eiddo dosbarth B - sef eiddo lle nad oes cyfyngiad ar ei feddiannu).  Noder mai  yr hyn a ddiffinnir yma yw eiddo nad yw’n brif gartref i unrhyw un, ond mae wedi cael ei ddodrefnu. 
Nid yw’r Ddeddf yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth i allu gwahaniaethu ar sail lle mae’r perchennog yn byw, neu os yw’r annedd yn cael ei ddefnyddio at bwrpasau gwyliau.
Mae Cyngor Gwynedd wedi codi premiwm o 50% ar ail gartrefi (dosbarth B) ers 1 Ebrill 2018, ac ymhellach i hyn, penderfynwyd ar 4 Mawrth 2021 y byddai y premiwm yn cynyddu i 100% o 1 Ebrill 2021. 
Yn ei gyfarfod ar 1af Rhagfyr 2022 penderfynodd y Cyngor nawr i gynyddu y premiwm i 150% ar ail gartrefi, hynny yn effeithiol o 1af Ebrill 2023.  Mae mwy o fanylion am y penderfyniad hwnnw yma.
 
Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2025/26, penderfynodd Cyngor Gwynedd ar 5ed Rhagfyr 2024: 
- Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
 
- Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. 
 
 
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n nodi eithriadau penodol lle na ellir gosod premiwm Treth Cyngor, rhestrir y rhai hynny isod:
eiddo
| Dosbarthiadau Eiddo  | Diffiniad  | 
|  Dosbarth 1 | 
Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar werth - gyda therfyn amser  | 
|  Dosbarth 2 | 
Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar osod - gyda therfyn amser o flwyddyn  | 
|  Dosbarth 3 | 
Anecsau sy'n ffurfio rhan neu sy'n cael eu trin fel rhan o'r brif annedd.  | 
|  Dosbarth 4 | 
Eiddo a fyddai'n unig neu yn brif gartref rhywun heblaw ei fod yn aros yn llety'r Lluoedd Arfog  | 
|  Dosbarth 5 | 
Safleoedd carafannau ac angorfeydd cychod  | 
|  Dosbarth 6 | 
 Cartrefi tymhorol lle gwaherddir byw ar hyd y flwyddyn | 
|  Dosbarth 7 | 
Eiddo cysylltiedig â gwaith  | 
*Mae'r cyfyngiad amser o flwyddyn ar gyfer Dosbarth 1 a Dosbarth 2 yn effeithiol o'r dyddiad aeth yr eiddo ar y farchnad i fod ar werth neu ar osod, ac fe all hynny fod cyn dyddiad effeithiol unrhyw bremiwm.
Bydd premiwm o 150% Treth Cyngor ychwanegol yn cael ei godi o 1 Ebrill 2023 ar unrhyw eiddo sydd yn cael ei adnabod fel ail gartref neu eiddo sydd wedi ei ddodrefnu a neb yn byw ynddo, ac sydd heb eithriad arno.
Premiwm o 50% fydd yn cael ei godi ar unrhyw gyfnod o 1 Ebrill 2018 hyd at 1 Ebrill 2021, a 100% am unrhyw gyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 1 Ebrill 2023.
Gweld gwybodaeth bellach am y premiwm, gan gynnwys nifer yr eiddo sy'n atebol am bob premiwm, swm yr incwm a godir a sut y defnyddir yr incwm ychwanegol.
 
Manylion cyswllt:
E-bost: trethcyngor@gwynedd.llyw.cymru
Ffôn:    01286 682 700