Benthyciadau Tai

Cynllun Benthyciadau Gwella Cartref Llywodraeth Cymru

Benthyciadau di-log o £1,000 i £25,000 i gynorthwyo perchnogion eiddo sydd angen gwaith adnewyddu.

Ar gael i berchnogion preswyl, landlordiaid, datblygwyr ac elusennau i gynorthwyo gyda gwneud cartref yn gynnes a diogel.

Rhaid ad-dalu pob benthyciad erbyn 31 Mawrth 2030.

  • Benthyciad dewisol hyd at £25,000 i gynorthwyo perchnogion i wella safon eu heiddo
  • Bydd cynigion benthyciadau rhwng lleiafswm o £1,000 hyd at uchafswm o £25,000 fesul uned o lety, gydag uchafswm o £150,000 i bob ymgeisydd ar werth yr eiddo ar y farchnad gyfredol, yn ogystal â chyflwr yr eiddo unrhyw adeg.
  • Uchafswm cymhareb benthyciad o 80% yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y farchnad gyfredol, yn ogystal â chyflwr yr eiddo.

Mae'r benthyciad ar gael os nad yw gwerth unrhyw forgais yn ogystal â benthyciad/au gyda'i gilydd yn fwy na 80% o werth cyfredol y cartref.
Er enghraifft, os yw'r eiddo werth £100,000 a bod gennych forgais 75%, nid oes modd gwneud cais am fenthyciad thu hwnt i £5,000 (h.y. ecwiti 5% sy'n weddill)

  • Bydd pob benthyciad yn cael ei gynnig yn ddi-log, ond bydd ffi weinyddol o £500 yn cael ei ychwanegu at y benthyciad neu yn cael ei dalu o flaen llaw.
  • Bydd pob benthyciad yn cael ei weinyddu gan Lendology neu Parity.

Mae’r cymorth yma yn ddewisol ac wedi'i anelu'n bennaf at gleientiaid bregus ac incwm isel.

Mae’r benthyciad yma ar gael i:

  • Perchnogion Preswyl (prif breswylfa'n unig)
  • Landlordiaid (Unigolion a Chwmnïau)
  • Datblygwyr (Partneriaethau a Chwmnïau)
  • Elusennau/Y Trydydd Sector

Bydd gallu’r ymgeisydd i ad-dalu’r benthyciad yn cael ei benderfynu gan Cyngor Gwynedd, Lendology neu Parity.

Ffurflen Gais

Gyrrwch y ffurflen gais uchod:

  • Drwy e-bost: taigwag@gwynedd.llyw.cymru, neu;
  • Yn y post: Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Cae Penarlag, Dolgellau  LL40 2YB 

Amodau Gwneud Cais

  • Bydd yn rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan brawf o Deitl ac weithiau bydd yn rhaid iddynt gael eu cefnogi gan Brisiad RICS.  Nid yw'r gosto gael y rhain wedi'u cynnwys yn y ffi weinyddol o £500.
  • Os nad yw’r benthyciad yn cynnwys costau llawn y gwaith, bydd angen tystiolaeth fod gweddill yr arian ar gael ar gyfer cwblhau’r prosiect o’r cychwyn.
  • Rhaid cyflwyno dau ddyfynbris ar gyfer y gwaith dan ystyriaeth ar adeg y cais.
  • Rhaid ad-dalu pob benthyciad cyn diwedd mis Mawrth, 2030.
  • Bydd pob benthyciad yn cael ei sicrhau fel arwystl cyntaf neu ail yn erbyn Teitl y Gofrestrfa Tir a rhaid i'r eiddo gael ei gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir cyn cymeradwyo benthyciad.
  • Rhaid i'r eiddo fod ag yswiriant dilys.

Mwy o wybodaeth

 

Benthyciad gwaith hanfodol

Grant gwirfoddol o hyd at £15,000 i ymgymryd ag atgyweiriadau hanfodol. Bydd rhaid i ymgeiswyr fod ar incwm isel (mae prawf modd yn berthnasol)  neu yn derbyn budd-daliadau penodol. Bydd rhaid i’r gwaith fod yn Berygl Categori 1 (sef perygl sydd yn debygol o achosi niwed difrifol i’r preswylwyr). Bydd rhaid ad-dalu y benthyciad yn llawn heb eithriad pan waredir yr eiddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod. Mae'r benthyciad hwn trwy wahoddiad yn unig.

Beth ydi'r benthyciad a faint sydd ar gael?

Benthyciad dewisol gydag uchafswm o £15,000.


Ar gyfer beth?

Ar gyfer gwaith hanfodol neu atgyweirio brys i berchnogion tai a fyddai fel arall ddim yn gallu fforddio’r costau sy’n gysylltiedig â delio gyda pheryglon sy'n dod o waith atgyweirio hanfodol a brys.


Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Mae'r benthyciad hwn trwy wahoddiad yn unig.

Rhaid i'r unigolyn fod yn derbyn un o'r budd-daliadau prawf modd isod:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cefnogi Cyflogaeth (ESA) (incwm yn unig)
  • Gostyngiad Treth y Cyngor (ond nid disgownt person sengl); Lwfans Ceision Gwaith (incwm yn unig)
  • Credyd Treth Gwaith neu Blentyn (efo incwm blynyddol o llai na £15,050);
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Gwarantedig
  • Credyd Pensiwn.


Amodau

  • Mae angen i'r gwaith angenrheidiol disgyn o dan Categori Perygl 1 yn unol â’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ac a ystyrid yn flaenoriaeth fel wedi’u pennu gan Swyddog o’r Adran Tai.
  • Rhaid i ymgeiswyr dangos eu bod wedi trio ateb y broblem trwy gwmni yswiriant yr adeilad.
  • Mae’r benthyciad yn ad-daladwy yn llawn heb eithriad, pan waredir yr eiddo.
  • Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o berchnogaeth.

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

  • Ffôn: 01341 434351
  • E-bost: taigwag@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad post: Tai Sector Preifat, Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Cae Penarlâg Dolgellau Gwynedd LL40 2YB