Mae'r drefn o ddyrannu tai cymdeithasol Gwynedd ar fin newid er mwyn rhoi blaenoriaeth i bobl leol sydd angen tai.
Ar ôl yr ymgynghoriad yn 2019, bydd y polisi newydd yn cynnig system symlach i bobl sydd am wneud cais am dai cymdeithasol drwy gryfhau'r pwyslais ar gysylltiadau lleol a chymunedol.
Mae'r polisi newydd wedi'i seilio ar 'fandio' anghenion tai ymgeiswyr yn hytrach na'r hen system sy'n seiliedig ar bwyntiau. Bydd yn rhannu ceisiadau yn bedwar band, o'r rheini sydd 'mewn angen tai ar frys gyda chysylltiad â Gwynedd' i'r rhai 'heb unrhyw angen tai ond gyda chysylltiad Gwynedd'.
"Rydyn ni am gynnig system sy'n llawer haws i bobl ei deall ac sydd, yn y pen draw, yn sicrhau bod pobl leol sydd â'r angen mwyaf am dai yn cael y cartrefi sydd eu hangen arnynt," meddai Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros dai, Y Cynghorydd Craig ab Iago.
"Mae pobl wedi dweud wrthym y gall yr hen system fod yn anodd ei deall ac y dylid gwneud mwy fel bod tai yn cael eu cynnig i bobl sydd â chysylltiad cryfach â'r gymuned leol.
"Drwy wrando ar y sylwadau hyn, rydym bellach yn cyflwyno system newydd a blaengar a fydd yn mynd i'r afael ag anghenion pobl drwy gyflwyno system newydd sy'n haws ei deall.
"Bydd y polisi newydd hwn yn gwneud yn siŵr bod pobl Gwynedd yn cael cymaint o flaenoriaeth â phosibl o fewn y system dai ac yn blaenoriaethu'r ymgeiswyr hynny sydd â'r angen mwyaf, yn ogystal â'u cysylltiad â'r cymunedau Sirol ac unigol."
Yng Ngwynedd, mae tai cymdeithasol ar gael gan Adra, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru. Mae eiddo'n cael ei gynnig drwy gofrestr tai cyffredin y Sir sy'n cael ei gweinyddu gan Dîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at bawb ar y gofrestr yn fuan i esbonio'r system newydd ac i roi gwybod iddynt sut y bydd hyn yn effeithio ar eu cais.
Cwestiynau a ofynnir yn aml