Digartrefedd
Mae digartrefedd yn golygu mwy na 'chysgu allan' yn unig. Mae’n gallu golygu:
- bod heb le y mae gennych hawl i fyw ynddo
- bod gennych le i fyw ond bod ei gyflwr yn wael
- bod wedi eich cloi allan
- eich bod yn wynebu trais neu fygythiad yn eich cartref
- nad yw’n rhesymol i chi barhau i fyw yn yr un lle am reswm arall.
Mewn perygl o fod yn ddigartref
Mae sawl rheswm all olygu bod pobl mewn perygl o fod yn ddigartref:
- cartref mewn cyflwr gwael
- trafferthion gyda phartner / teulu / landlord
- cartref ynghlwm â swydd sy’n dod i ben
- dyledion morgais / rhent.
Os ydych yn poeni am gael eich gwneud yn ddigartref, cysylltwch â’r Tîm Opsiynau Tai gynted â phosib:
Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor ar y dewisiadau sydd ar gael er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch y mynd yn ddigartref.
Mewn argyfwng - digartref ar hyn o bryd
Os ydych yn ddigartref / cysgu allan ar hyn o bryd, neu os ydych yn pryderu am rywun arall, cysylltwch â ni:
Gallwn asesu’ch anghenion a thrafod y gefnogaeth sydd ar gael.
Gwasanaethau i bobl ddigartref
Atal digartrefedd
Gallwch weld beth mae’r Cyngor yn bwriadu ei wneud er mwyn atal digartrefedd drwy edrych ar ein Strategaeth Digartrefedd
Noder: Mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’r ‘prawf bwriadoldeb’ wrth ystyried ceisiadau.