Tocyn 1bws

Prisiau tocyn 1bws

Mi fydd prisiau Tocyn 1bws yn cynyddu o'r 8 Chwefror, 2026. Mae'r prisiau newydd i'w gweld isod:

  • Oedolyn: £7.50 am ddiwrnod, £32 am docyn wythnos
  • Plentyn (5-16 oed): £5 am ddiwrnod, £22 am docyn wythnos
  • Consesiwn (deiliad tocyn FyNgherdynTeithio neu docyn consesiwn Lloegr neu’r Alban): £5 am ddiwrnod, 22 am wythnos
  • Tocyn diwrnod Teulu (hyd at 2 oedolyn a hyd at 3 o blant): £16
Close

 

Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws newydd yn rhoi mynediad i chi i 27 o weithredwyr bysiau a 196 o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru, sy’n golygu y gallwch fynd o gwmpas yn hawdd heb boeni am ba fws i’w ddefnyddio. 

Gellir defnyddio tocyn 1bws a’r rhwydwaith Sherpa’r Wyddfa.

 

Lle allwch chi ddefnyddio tocyn 1 bws

Gallwch ddefnyddio tocyn 1bws ar unrhyw wasanaeth fysiau yng Ngogledd Cymru o fewn, o neu i’r siroedd canlynol:

  • Ynys Môn
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Wrecsam

Ni ellir defnyddio tocynnau 1bws ar wasanaeth Townlynx 28 (Yr Wyddgrug – y Fflint), T36 Dyffryn Dyfi BwcaBus na gwasanaethau math twristiaeth (megis X10).

 

Gwasanaethau bws sy’n gweithredu yn Lloegr

Gallwch ond ddefnyddio tocyn 1bws ar y gwasanaethau hynny sy’n dechrau neu’n gorffen yng Nghymru ac yn gweithredu yn uniongyrchol i Gaer, Ellesmere Port neu Tre-Groes (Shropshire).

 

Gwasanaethau Traws Cymru®

Mae tocynnau 1bws yn ddilys ar y gwasanaethau Traws Cymru® canlynol:

  • T2 (Bangor - Aberystwyth)
  • T3 (Wrecsam - Barmouth)
  • T10 (Corwen - Bangor)
  • T51 (Wrecsam - Rhyl)
  • T8 (Corwen - Chester)
  • T22 (Porthmadog - Caernarfon)

Sut i brynu tocyn 1bws

I brynu tocyn 1bws, talwch y gyrrwr ar eich bws cyntaf. Derbynnir arian parod neu ‘contactless’ ar bob bws. Gallwch hefyd ddefnyddio Tapio Mlaen / Tapio Ffwrdd a bydd y tâl yn cael ei gapio'n awtomatig.

 

Prisiau tocynnau 1bws

 Math o docynMath o docynPrisPris o 8 Chwefror, 2026

Oedolyn

Tocyn dydd

£7.00

£7.50

Plentyn (5 i 16 oed)

Tocyn dydd

£4.70

£5.00

Consesiwn (deiliad tocyn FyNgherdynTeithio neu docyn consesiwn Lloegr neu’r Alban)

Tocyn dydd

£4.70

£5.00

Teulu (hyd at 2 oedolyn a hyd at 3 o blant)

Tocyn dydd

£15.00

£16.00

Oedolyn

Tocyn wythnos

£30.00

£32.00

Plentyn (5 i 16 oed)

Tocyn wythnos

£20.50

£22.00

Consesiwn (deiliad tocyn FyNgherdynTeithio neu docyn consesiwn Lloegr neu’r Alban)

Tocyn wythnos

£20.50

£22.00

Cael gafael ar docyn MyTravelPass

Dilynwch y linc hwn am ragor o wybodaeth.

 

Sut i ddefnyddio tocyn 1bws

I ddefnyddio tocyn 1bws, dangoswch y cod QR i’r darllenydd ar bob bws dilynol neu defnyddiwch ‘Tap on-Tap off’.

 

Am ba hyd mae’r tocyn 1bws yn ddilys?

Mae tocyn 1bws yn ddilys am ddiwrnod cyfan, hyd at, ac yn cynnwys y bws olaf. Mae tocyn wythnos 1bws yn ddilys am 7 diwrnod olynol.

 

Tapio mlaen / tapio ffwrdd

Gallwch ddefnyddio ‘Tap on-Tap off’ i dalu am docyn 1Bws a bydd pris eich taith yn cael ei ‘gapio’ – fel rydych yn teithio o gwmpas ar y diwrnod cyntaf, pan fydd cost eich taith yn cyrraedd pris y tocyn dydd 1Bws, ni chodir mwy o dâl ar y diwrnod hwnnw. Bydd hyn yn parhau am 7 diwrnod olynol tan bydd y cap cyfwerth a pris tocyn wythnos yn cael ei gyrraedd. Bydd pob taith wedi hyn yn cael ei gapio  ar sero dros y cyfnod sy’n weddill o’r 7-diwrnod.