Sherpa'r Wyddfa
Gwasanaeth bws arbennig yw Sherpa’r Wyddfa sy’n teithio o amgylch troed yr Wyddfa gan greu cyswllt defnyddiol rhwng 6 prif lwybr y Wyddfa, prif feysydd parcio a phentrefi a chyrchfannau twristiaeth yr ardal.
Mae’n wasanaeth delfrydol i gerddwyr neu ddringwyr sy’n bwriadu cychwyn eu taith yn un man a gorffen yn rhywle arall, neu yn wir i unrhyw un sy’n dymuno crwydro Eryri a gadael eu car adref.
Mae pob taith yn cael ei weithredu gan fws Llawr Isel gyda gofod a ramp i gadeiriau olwyn er mwyn sicrhau fod pob stop yn addas ar gyfer bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn.
Prynu tocyn
Gallwch brynu eich tocyn ar y bws. Mae’n bosib prynu tocyn ar gyfer taith unigol neu docyn dydd a fydd yn eich galluogi i fynd a dod ar y Sherpa fel y mynnoch drwy’r dydd.
Faint yw tocyn hyd at ac yn cynnwys 24 Gorffennaf 2020?
- Sengl oedolyn o £2
- Sengl plentyn o £1
- Tocyn Dydd Sherpa'r Wyddfa £5 / £2.50
Faint yw tocyn o 25 Gorffennaf 2020 ymlaen?
- Sengl oedolyn o £2
- Dwyffordd oedolyn o £3
- Sengl plentyn o £1
- Dwyffordd plentyn o £1.50
- Tocyn Dydd Sherpa'r Wyddfa £5 / £2.50
Taliad di-gyswllt ar gael.
Gwybodaeth bellach
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys amserlenni a phris tocyn teithio ar y bws Sherpa ewch i wefan Traveline Cymru