Tocyn Parcio Gwynedd

Prynwch Docyn Parcio Gwynedd er mwyn  parcio ym meysydd parcio arhosiad hir y Cyngor (telerau ac amodau yn bodoli).

Prynu tocyn ar-lein

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Pris:
  • Tocyn 6 mis:  £70
  • Tocyn 12 mis:  £140

 

 

Mae'r tocyn yn gadael i chi barcio ym meysydd parcio arhosiad hir Cyngor Gwynedd (gweler telerau ac amodau). 

Os ydych dros 60 oed, cewch barcio yn y meysydd parcio arhosiad byr hefyd - hyd at 2 awr mewn cyfnod o 24 awr (gweler telerau ac amodau). 

Byddwn yn cysylltu efo chi pan fydd yn amser i chi adnewyddu eich tocyn. Gallwch adnewyddu 28 diwrnod cyn i’ch tocyn cyfredol ddod i ben.    

Os oeddech wedi prynu eich tocyn presennol ar-lein, gallwch ei adnewyddu ar-lein.
Tocyn Parcio Gwynedd – adnewyddu ar-lein 

Os ydych angen gwneud unrhyw newid i’r tocyn (e.e. newid math y tocyn), peidiwch â defnyddio’r ffurflen adnewyddu – dechreuwch gais newydd.  

Os ydych wedi colli eich tocyn mae’n bosib prynu un newydd am £20. 

Os oeddech wedi prynu’r tocyn ar-lein gallwch brynu’r tocyn newydd ar-lein.
Tocyn Parcio Gwynedd – tocyn yn lle un sydd ar goll 

Fel arall, ffoniwch 01766 771000 

 

Mwy o wybodaeth...

Am fwy o wybodaeth, neu i brynu dros y ffôn, ffoniwch 01766 771000.

Gallwch hefyd brynu Tocyn Parcio Gwynedd yn unrhyw un o Siopau Gwynedd