Tocyn Parcio Lleol

Prynwch Docyn Parcio Lleol er mwyn parcio mewn UN maes parcio arhosiad hir agos i’ch cartref (telerau ac amodau yn bodoli). 

Prynu tocyn ar-lein 

(rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

 

Pris

£70 y flwyddyn

 

Lle ga’i ddefnyddio’r tocyn?

Gallwch barcio mewn UN maes parcio arhosiad hir agos i’ch cartref efo Tocyn Parcio Lleol. Nid yw pob cyfeiriad yng Ngwynedd yn gymwys i brynu Tocyn Parcio Lleol. Gweld map meysydd parcio Gwynedd.

 

Wedi colli eich tocyn

Os ydych wedi colli eich tocyn mae’n bosib prynu un newydd am £20.

Ffoniwch 01766 771000

 

Mwy o wybodaeth....

Am fwy o wybodaeth, neu i brynu dros y ffôn, ffoniwch 01766 771000.

Gallwch hefyd archebu Tocyn Parcio Gwynedd yn unrhyw un o Siopau Gwynedd