Telerau ac amodau - Tocyn Parcio Lleol

1. Dim ond cyfeiriadau o fewn pellter penodol i faes parcio arhosiad hir all brynu Tocyn Parcio Lleol.

2. Dim ond yn yr UN maes parcio sydd wedi ei nodi ar y Tocyn Parcio Lleol y mae’r tocyn yn ddilys. 

3. Er mwyn cadarnhau fod perchennog y tocyn yn byw yn y cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen byddwn yn gwirio’r wybodaeth yn erbyn y Gofrestr Etholiadol Lawn. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol os nad ydi’r enw / cyfeiriad yn cyd-fynd â’r wybodaeth yr ydym ni yn ei ddal.

4. Nid yw’n bosib i fusnesau wneud cais am Docyn Parcio Lleol.

5. Bydd y dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen wedi ei argraffu ar eich tocyn. Bydd eich tocyn yn ddilys rhwng y dyddiadau yma yn unig.

6. Nid oes llecyn parcio wedi’i warantu. Rhaid parcio oddi fewn y mannau sydd wedi’u marcio. 

7. Rhaid arddangos y tocyn yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd, ac mae’n rhaid medru ei ddarllen o’r tu allan. Mae peidio ag arddangos y tocyn yn drosedd o dan Orchymyn Parcio Oddi Ar y Stryd y Cyngor a gallwch dderbyn Rhybudd Talu Cosb. Mae telerau ac amodau sydd ar fwrdd tariff y meysydd parcio yn berthnasol. 

8. Dim ond ar gyfer cerbyd gydag injan ynddo mae’n bosib prynu tocyn. Ni ellir prynu tocyn ar gyfer parcio trelar / carafán ayyb yn y meysydd parcio. 

9. Ni ddylech lungopïo na newid eich tocyn, na gadael i rywun arall wneud hynny.  

10. Os ydych yn colli Tocyn Parcio Lleol bydd cost o £20 am ail-argraffu ac  ail-anfon y tocyn. 

11. Bydd e-bost / llythyr / neges tecst atgoffa yn cael ei anfon atoch pan fydd yn amser adnewyddu eich tocyn. Gallwch adnewyddu tocyn 28 diwrnod o flaen llaw. 

12. Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu o Bellter mae gennych saith diwrnod gwaith ar ôl derbyn y telerau ac amodau i ganslo’r gwasanaeth. Bydd rhaid dychwelyd y tocyn parcio cyn y bydd ad-daliad yn cael ei roi. Ar ôl saith diwrnod gwaith, ni fydd ad-daliad ar gael am y tocyn parcio.