Dirwy parcio

Y Cyngor sy'n rheoli parcio ar y stryd a meysydd parcio'r Cyngor yng Ngwynedd. Os na fyddwch yn cadw at y rheolau parcio, byddwch yn derbyn dirwy (Rhybudd Talu Cosb) ar ffenestr eich cerbyd.  

Yr Heddlu fydd yn rhoi dirwy i'r gyrrwr sy'n achosi rhwystr neu wedi parcio'n beryglus. 

 

Talu dirwy parcio

Talu dirwy parcio ar-lein 

Neu, gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu debyd drwy ffonio llinell dalu Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru: 0845 6056556. Neu, gallwch dalu wyneb yn wyneb yn unrhyw Swyddfa Bost. 

  • £70 am droseddau difrifol (gostwng i £35 os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod)
  • £50 am droseddau llai difrifol (gostwng i £25 os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod)

Gallwch weld diffiniad o'r troseddau ar wefan Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru (cyswllt allanol).

Os ydych yn credu eich bod wedi derbyn dirwy (Rhybudd Talu Cosb) ar gam, gallwch apelio i Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru o fewn 14 diwrnod o'i dderbyn. Bydd rhaid i chi ysgrifennu eich apêl ar ffurf llythyr, e-bost neu ffacs a'i yrru at unai:  

Gwnewch yn siŵr fod eich llythyr yn cynnwys y:

  • Rhif y Rhybudd Talu Cosb (bydd hwn yn ffigwr 10 digid fel GW51235123)
  • Eich enw a’ch manylion cyswllt.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag apelio yn erbyn Rhybudd Talu Cosb, ewch i wefan Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru.

Er mwyn osgoi derbyn dirwy, peidiwch â pharcio:

  • lle mae cyfyngiadau (limits) aros a llwytho 
  • mewn lle parcio sydd wedi cael ei gadw (er enghraifft ar gyfer gyrrwyr efo bathodynnau glas) heb ddangos tocyn caniatad
  • mewn safle bysus neu ar lôn fysus tu hwnt i'r oriau lle mae hawl gwneud
  • ar linellau igam-ogam tu allan i ysgol neu le i gerddwyr groesi
  • mewn meysydd parcio talu ac arddangos heb dalu am docyn yn gyntaf
  • yn hirach na sy'n cael ei ganiatáu, a pheidiwch â dod yn ôl i’r lle o fewn yr amser sy'n cael ei nodi

Cofiwch gymeryd sylw o'r rheolau a darllenwch yr arwyddion a'r wybodaeth.

Gallwch weld y rheolau parcio llawn ar wefan Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru.

 

Am ragor o wybodaeth am barcio yng Ngwynedd, cysylltwch â ni ar 01766 771000.

Datganiadau Preifatrwydd Amgylchedd