Datganiadau Preifatrwydd Amgylchedd

Pam ein bod angen eich gwybodaeth:


Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn prosesu:

  • Ceisiadau Cynlluniau Llawn
  • Ceisiadau Rhybudd Adeiladu
  • Ceisiadau Tystysgrif Rheoleiddio
  • Ceisiadau Gosod Ffenestri a Drysau
  • Hysbysiad Dymchwel
  • Hysbysiad Adeilad Peryglus
  • Ceisiadau Enwi Tai a Strydoedd

 

Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth:

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol o dan y Ddeddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu 2010 i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. 

 

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth:

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda thrydydd parti oni bai fod y gyfraith yn caniatáu iddynt gael mynediad ato.

 

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth:

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am o leiaf 15 mlynedd yn unol â chanllawiau’r Ddeddf.

 

Eich hawliau:

Mae gennych hawl i weld y wybodaeth sydd gennym arnoch chi a’r hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data. 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau neu os hoffech gwyno am sut yr ydym wedi trin ein gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data trwy e-bost i swyddogdiogeludata@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01766 771000.

 

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os credwch nad ydym yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â’r gyfraith.

Pwy ydym ni? 

Ni yw'r Timau Rheolaeth Datblygu a Gorfodaeth (gan gynnwys arbenigeddau Cadwraeth Adeiledig a Gwastraff a Mwynau) o fewn Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut ydym yn defnyddio gwybodaeth wrth gyflawni ein dyletswyddau. Mae’r gwaith hwn yn eang ac yn cynnwys: 

  • Gwneud argymhellion a phenderfyniadau ar bob math o geisiadau cynllunio a darparu cyngor ar ymholiadau cynllunio
  • Cynrychioli'r Cyngor mewn gwahanol gyfarfodydd i hyrwyddo'r defnydd gorau o dir
  • Ymateb i gwynion sy'n ymwneud â datblygiadau anghyfreithlon posib
  • Monitro datblygiadau
  • Llunio cytundebau cyfreithiol, rhoi rhybuddion ac ymdrin ag apeliadau cynllunio

 

 

Sut ydym yn cael eich gwybodaeth? 

Rydym yn derbyn eich gwybodaeth pan fyddwch yn cyflwyno cais cynllunio a gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd - fe'i darperir i ni'n uniongyrchol (gennych chi neu gan rywun sy'n gweithredu ar eich rhan, e.e. asiant cynllunio) neu gellir derbyn y cais o wefan trydydd parti sy'n darparu gwasanaeth gweithrediadau megis yr un a ddarperir gan 'Planning Portal'.

 

Rydym hefyd yn derbyn eich gwybodaeth pan fyddwch chi, neu rywun sy'n gweithredu ar eich rhan, yn gwneud sylwadau, cwynion, ymholiadau cyn cyflwyno cais ac yn cyflwyno cwestiynau/ymholiadau drwy ein gwefan, drwy e-bost, drwy'r post neu dros y ffôn.

 

Beth ydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth? 

Er mwyn ein galluogi i ymdrin ag ystod eang o faterion cynllunio, gan gynnwys gwneud argymhellion a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio, rhaid i unigolion ddarparu ychydig o ddata personol i ni (e.e. enw, cyfeiriad, manylion cyswllt). Mewn nifer bychan o amgylchiadau, bydd ymgeiswyr/unigolion yn darparu "data categori arbennig" i ni er mwyn cefnogi eu cais (e.e. tystiolaeth o hanes meddygol, gwybodaeth ariannol neu fusnes).

 

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych i gynnig cyngor, gwneud argymhellion a/neu gwneud penderfyniadau ar faterion cynllunio. Gelwir hyn yn "dasg gyhoeddus" a dyna pam nad ydym angen i chi roi caniatâd i'ch gwybodaeth gael ei ddefnyddio.

 

Dan y rheoliadau, mae gofyn i ni sicrhau bod ychydig o'r wybodaeth ar gael ar y gofrestr gcynllunio. Mae'r gofrestr cgynllunio yn cynnwys y brif wybodaeth yn y ffeil sy'n ymwneud â'r cais cynllunio. Fodd bynnag, bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn cadw ffeil y cais cynllunio yn ei chyfanrwydd a bydd hon yn ffurfio cofnod parhaol o benderfyniadau cynllunio ac yn darparu gwybodaeth am hanes cynllunio'r cais a'r safle, ynghyd â gwybodaeth arall, gyda phosibilrwydd y bydd ychydig ohono'n ffurfio rhan o'r 'chwiliad tir'.

 

Sut ydym yn rhannu eich gwybodaeth? 

Nid ydym yn gwerthu eich gwybodaeth i sefydliadau eraill. Nid ydym yn symud eich gwybodaet tu hwnt i'r DU. Nid ydym yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud penderfyniadau awtomatig.

 

Fel rhan o'r cyfnod ymgynghori, bydd manylion ceisiadau cynllunio, gan gynnwys dogfennau ategol a ddarperir naill ai gennych chi/eich asiant a'r rhai a ddarperir i chi gan drydydd parti, e.e. arolygon, barn arbenigol ac ati, ar gael ar-lein fel y gall pobl wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio. Weithiau, byddwn angen rhannu'r wybodaeth sydd gennym gydag adrannau eraill yn y Cyngor, er enghraifft, pan fyddwn angen sefydlu neu ymchwilio i faterion cynllunio penodol neu faterion eraill yn ymwneud â'r Cyngor. Rydym hefyd yn gofyn i sampl o ymgeiswyr gymryd rhan mewn arolwg dilynol, "sut wnaethom ni?" i weld sut allwn wella.

 

Golygiad ('sgrinio pethau') 

Rydym yn gweithredu polisi lle rydym, fel rheol, yn sgrinio'r manylion a ganlyn cyn rhoi ffurflenni a dogfennau ar-lein: 

● Manylion cyswllt personol yr ymgeisydd - e.e. rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost

● Llofnodion a ddarparwyd ar y ffurflen gais

● Data Categori Arbennig - e.e. datganiadau ategol sy'n cynnwys gwybodaeth am hanes meddygol, tarddiad ethnig, gwybodaeth ariannol neu fusnes

● Gwybodaeth y cytunwyd arni'n glir i fod yn gyfrinachol

 

Efallai y byddwn yn penderfynu ei fod yn angenrheidiol, yn gyfiawn ac yn gyfreithiol i ddatgelu'r data sy'n ymddangos

yn y rhestr uchod. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein bwriad cyn i ni

gyhoeddi unrhyw beth.

 

Os ydych yn cyflwyno gwybodaeth ategol yr hoffech iddi gael ei thrin yn gyfrinachol

neu'n dymuno ei hatal yn benodol o'r gofrestr gyhoeddus, rhowch wybod i ni cyn gynted ag y

gallwch - yn ddelfrydol, cyn cyflwyno'r cais. Y ffordd orau o gysylltu gyda ni ynglŷn â'r

mater yw cynllunio@gwynedd.llyw.cymru.

 

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?' 

Rydym yn prosesu llawer o wahanol fathau o wybodaeth ac mae'r cyfnodau cadw penodol. 

 

Cwynion a phroblemau

Os ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le neu fod rheswm yr hoffech i rywbeth beidio â chael ei ddatgelu, cysylltwch â ni i drafod eich pryderon drwy e-bostio:

cynllunio@gwynedd.llyw.cymru

 

Os ydych angen gwneud cwyn yn benodol ynglŷn â'r modd yr ydym wedi prosesu eich data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor.

Mae tîm y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn casglu, yn prosesu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu ein gwasanaethau yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Prosesu cwynion
  • Ymholiadau Cyffredinol
  • Ymholiadau ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus
  • Prosesu grantiau yn ymwneud â Llywodraeth Cymru
  • Ceisiadau i gau llwybrau dros dro
  • Ceisiadau i ymchwilio i orchmynion addasu mapiau swyddogol
  • Ceisiadau i gymryd rhan mewn fforymau mynediad lleol cefn gwlad

 

Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth a ganlyn:

  • Gwybodaeth bersonol
    • Enw
    • Cyfeiriad
    • Rhif ffôn
    • Cyfeiriad e-bost

Cesglir y wybodaeth drwy:

  • Ffurflenni papur, electronig neu ar-lein
  • Dros y ffôn
  • E-bost
  • Wyneb yn wyneb

Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn prosesu data personol yn unol â’r seiliau cyfreithiol a ganlyn:

  • Erthygl 6(1)(c) GDPR - mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolydd data yn destun iddynt
    • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
    • Deddf Priffyrdd 1980

Cedwir eich data am gyfnod o chwe blynedd. Mae hyn yn unol â pholisi'r Cyngor ar Gadw a Gwaredu Data.

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn os ydych yn cyflwyno cais am hyfforddiant Pass Plus. Cyngor Gwynedd yw’r rheolydd data a bydd yn prosesu eich gwybodaeth bersonol os fyddwch yn cwblhau cais ar gyfer hyfforddiant Pass Plus.

Pam fod angen eich gwybodaeth bersonol arnom?

  • Er mwyn prosesu eich cais
  • I gysylltu â chi ynglŷn â'ch cais
  • I benderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer Hyfforddiant Pass Plus

Yn unol ag erthygl 6 GDPR, mae'n angenrheidiol prosesu data er eich buddiannau cyfreithlon chi, a mewn perthynas â gwybodaeth yr hyfforddwr, mae'n angenrheidiol er mwyn gweithredu'r contract.

Cedwir eich data am gyfnod o chwe blynedd. Mae hyn yn unol â pholisi'r Cyngor ar Gadw a Gwaredu Data.

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a'i phrosesu er mwyn darparu gwasanaethau trafnidiaeth i unigolion cymwys a thrigolion Gwynedd. Rydym yn darparu gwasanaethau i ddiwallu ein dyletswyddau o dan

  • Ddeddfau Trafnidiaeth 1968 a 1985, 2000 Deddf Trafnidiaeth Leol 2008, Deddf Bysiau 2017 a Deddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006.

Mae Timau yn ein Gwasanaeth Trafnidiaeth yn gyfrifol am

  • Ddatblygu strategaeth a pholisi trafnidiaeth i Wynedd
  • Sicrhau bod trafnidiaeth yn cael ei chynllunio'n dda, ei chyllido'n addas a'i darparu mewn dull amserol a chynaliadwy
  • Hysbysu, dylanwadu a chymeradwyo agweddau priffyrdd o gynigion datblygu yn ei rôl fel ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio

Mae ein tîm Trafnidiaeth Gyhoeddus yn rheoli holl agweddau'r gwasanaethau Trafnidiaeth Gyhoeddus sydd o dan gontract, ac yn gyfrifol am

  • Reoli gwasanaethau bysiau o dan gontract (Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol)
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda gweithredwyr gwasanaethau bysiau masnachol
  • Trafnidiaeth gymunedol
  • Darparu tocynnau bysiau am ddim gyda Llywodraeth Cymru
  • Gwasanaethau Diogelwch Ffyrdd

Pa wybodaeth a ddelir gennym?

Er mwyn darparu'r swyddogaethau a ddisgrifir uchod, rhaid i ni gasglu a phrosesu gwybodaeth am bobl sy'n gofyn am wasanaeth gennym, sy'n cymryd rhan yn ein prosiectau, sy'n rhoi adborth i ni am bethau yr ydym yn gyfrifol amdanynt neu sy'n gweithio gyda ni fel gwirfoddolwyr, partneriaid neu gontractwyr i'n cynorthwyo i ddarparu ein gwasanaethau.

  • Manylion cyswllt ac adnabod megis enwau, cyfeiriadau, negeseuon e-bost a rhifau ffôn a manylion deiliaid tocynnau
  • Gwybodaeth yr ydych yn ei darparu wrth wneud ceisiadau am wasanaethau gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein, megis ceisiadau ar gyfer cardiau teithio bws. Gall fod yn wybodaeth sy'n cadarnhau'r meini prawf cymhwyster am wasanaethau, gan gynnwys manylion unrhyw anableddau neu anghenion gofal
  • Gwybodaeth i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn cwrdd ag anghenion unigolyn, megis gwybodaeth feddygol neu wybodaeth am unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anableddau.
  • Manylion yswiriant car, trwyddedau gyrru a thrwyddedau a ddelir gan bobl sy'n ymgeisio i fod yn yrwyr trafnidiaeth gymunedol.
  • Gwybodaeth a rennir fel rhan o gwynion, canmoliaeth neu apeliadau er mwyn i ni ymateb yn briodol iddynt

Gyda phwy fyddwn ni'n rhannu'r wybodaeth, a pham

Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei chofnodi mewn ffeiliau papur, cronfeydd data a ffolderi electronig ar rwydwaith diogel Cyngor Gwynedd sydd ar gael i staff yn unig, lle bo angen iddynt ei gweld er mwyn cyflawni eu swyddogaethau.

Bydd yr holl staff sydd â mynediad i wybodaeth amdanoch wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu data a diogelwch gwybodaeth, ac yn gweithio o dan god ymddygiad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt barchu cyfrinachedd y wybodaeth amdanoch y maent yn cael mynediad iddi at ddiben cyflawni eu swyddi.

Er mwyn darparu'r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt, neu wasanaethau y mae'n rhaid i ni eu darparu yn ôl y gyfraith, byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda'n partneriaid a gwasanaethau o dan gontract, megis Llywodraeth Cymru. Pan fyddwn yn gwneud hyn, mae ein contractau yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, a byddwn yn rhannu dim ond yr hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni ein swyddogaethau.


Am pa gyfnod fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Ni fyddwn ond yn cadw'r wybodaeth cyhyd ag sydd ei hangen. Bydd hyn yn seiliedig ar ofyniad cyfreithiol (pan fo cyfraith yn nodi bod yn rhaid cadw gwybodaeth am gyfnod penodol) neu ymarfer busnes sefydledig. Ar gyfer y mwyafrif o gofnodion amdanoch, bydd hyn hyd at dair blynedd ar ôl ein cyswllt olaf â chi. Cedwir cofnodion ariannol am saith mlynedd

Bydd Cyngor Gwynedd yn defnyddio unrhyw ddata a gedwir drwy gyhoeddi: 

  • Hysbysiad dirwy gosb
  • Ymdrin ag ymholiadau'n ymwneud â pharcio

at ddibenion gorfodaeth pan fod rheolau parcio wedi'u torri, a materion gorfodaeth eraill sy’n ymwneud â rheoli tocynnau parcio

Byddwn yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn i brosesu eich data personol:

  • Gweithredu contract lle'r ydych yn un o'r partïon. Er enghraifft, wrth barcio yn un o feysydd parcio'r Cyngor, rydych yn ymrwymo i amodau a thelerau'r maes parcio, neu wrth brynu tocyn parcio preswylydd
  • Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol mewn perthynas â gorfodi gorchmynion rheoleiddio traffig yng Ngwynedd.

Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu gyda Chyngor Sir Dinbych, sef yr awdurdod lletya ar gyfer y system Si-Dem sy'n prosesu gwybodaeth mewn perthynas â diffyg cydymffurfio â rheolau parcio.

Cedwir y wybodaeth am gyfnod o chwe blynedd

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom

Bydd Cyngor Gwynedd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon i gynnal Cofrestr Gyhoeddus o Gerbydau Hacni Trwyddedig a Gyrwyr Hurio Preifat ar wefan y cyngor fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol. Gall rannu'r wybodaeth a ddarperir, gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, i atal a chanfod twyll.

Gellir defnyddio'r manylion cyswllt rydych wedi'u darparu i'ch hysbysu am gyfleoedd tendro yn y dyfodol.

  • Gwirio statws gwaith ymgeiswyr trwydded, ac yn achos gweithredwyr hurio preifat, yr holl unigolion a enwir ar y drwydded gweithredydd. Lle bo angen, byddwn yn gwneud hyn drwy wirio eich gwybodaeth gyda'r Swyddfa Gartref a/neu'r Adran Gwaith a Phensiynau
  • Gwirio gwybodaeth arall amdanoch chi neu'ch cerbyd yn ystod y cyfnod y mae eich tacsi, hurio preifat neu drwydded gweithredwr yn ddilys. Mae hyn er mwyn sicrhau addasrwydd parhaus i ddal trwydded.
  • bod ar gofrestr i'w archwilio gan y cyhoedd. Gall y wybodaeth hon gynnwys eich enw, rhif bathodyn/trwydded, statws trwydded, dyddiad dechrau/dod i ben y drwydded, gwneud cerbyd a rhif cofrestru model a cherbyd
  • atal a chanfod twyll fel rhan o'r Fenter Twyll Genedlaethol. Mae Swyddfa'r Cabinet yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gymryd rhan mewn ymarferion paru data at y diben hwn
  • atal neu ganfod trosedd a/neu ddal neu erlyn troseddwyr
  • at ddibenion asesu eich cais neu barhau i fod yn gymwys i ddal trwydded
  • Ar gyfer cynnal ymchwil a dadansoddi. Ni ellir adnabod unigolion gan ddefnyddio'r data hwn.
  • Cysylltu â Gyrwyr Cerbyd Hacni trwyddedig cofrestredig a Cherbydau Hurio Preifat ar gyfer cyfleoedd tendro yn y dyfodol

Cyfiawnhad dros ddefnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol oherwydd ei bod yn angenrheidiol i gyflawni ein tasg gyhoeddus Erthygl 6 (1) (e).

Byddwn yn dibynnu ar Erthygl 6(1)(f) Buddiannau cyfreithlon: mae'r prosesu'n angenrheidiol er eich buddiannau cyfreithlon neu fuddiannau cyfreithlon trydydd parti. Bydd Cyngor Gwynedd yn dibynnu ar y sail gyfreithlon hon er mwyn rhannu gwybodaeth mewn perthynas â chyfleoedd tendro yn y dyfodol i Gerbydau Hacni trwyddedig cofrestredig a Gyrwyr Hurio Preifat.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich categorïau arbennig o ddata personol o dan Erthygl 9 (2)(g) ac os yw'n berthnasol data personol sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys y broses ymgeisio ar gyfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau DVLA.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i reoleiddio'r crefftau tacsi a hurio preifat o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ar gyfer Llogi Preifat. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ymdrin â thrwyddedu gyrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat, tacsi a cherbydau hurio preifat a gweithredwyr llogi preifat.

Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

Rhannu eich Gwybodaeth

Caiff data personol ei rannu, a'i dderbyn, yn ddiogel gyda phartïon a sefydliadau eraill lle mae'n angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny fel rhan o'r broses drwyddedu ac i sicrhau addasrwydd parhaus unigolyn neu gerbyd i ddal trwydded.

Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda:

  • Heddlu
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
  • Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau
  • Y Swyddfa Gartref
  • Swyddfa'r Cabinet
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Adran Drafnidiaeth
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
  • Motor Insurers' Bureau
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Adrannau eraill y Llywodraeth
  • Adrannau o fewn y Cyngor
  • Gweithredwyr Llogi Preifat
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wlad arall.


Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth a'ch hawliau

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol, oni bai ein bod yn cael ein disodli gan reoliad statudol, a byddwn yn ei waredu'n ddiogel pan nad oes ei angen mwyach.

  • Gwybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o gais – 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y gwrthodir y cais
  • Gwybodaeth a gedwir mewn perthynas â thrwydded - 5 blynedd ar ôl y dyddiad y mae'r drwydded yn peidio â chael ei dal.
  • Gwybodaeth a dderbyniwyd fel rhan o ymchwiliad gorfodi – am o leiaf 6 blynedd ac yna dim ond cyhyd ag y bo angen i lywio penderfyniad i ddiogelu'r cyhoedd

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data, ewch i Datganiadau preifatrwydd a chwcis