Os oes gennych chi Docyn Teithio Rhatach gan un o Awdurdodau Lleol Cymru, bydd modd i chi deithio am ddim ar lawer o drenau.
Manylion llawn
Machynlleth i Bwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian)
Bob blwyddyn, rhwng 01 Hydref a 31 Mawrth, mae modd i chi deithio rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:
Pwllheli, Abererch, Penychain, Cricieth, Porthmadog, Minffordd, Penrhyndeudraeth, Llandecwyn, Talsarnau, Tygwyn, Harlech, Llandanwg, Pensarn, Llanbedr, Dyffryn Ardudwy, Tal-y-bont, Llanaber, Abermaw, Morfa Mawddach, Fairbourne, Llwyngwril, Tonfannau, Tywyn, Aberdyfi, Penhelig, Cyffordd Dyfi, Machynlleth.
Dydyn ni ddim yn derbyn tocynnau rhatach ar y trenau canlynol yn ystod tymhorau ysgol:
- 06.10 Pwllheli – Machynlleth rhwng Abermaw a Thywyn
- 07.34 Pwllheli – Machynlleth rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech
- 12.56 Machynlleth – Pwllheli rhwng Harlech a Phenrhyndeudraeth
- 14.56 Machynlleth – Pwllheli rhwng Tywyn ac Abermaw
Llandudno – Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
Gallwch deithio am ddim rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:
Llandudno, Deganwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Betws-y-Coed, Pont-y-Pant, Dolwyddelan, Y Bont Rufeinig, Blaenau Ffestiniog.