Ymuno â'r llyfrgell
Gallwch ymaelodi gyda'r llyfrgell yn rhad ac am ddim, ac yn gwbl ddidrafferth.
Unwaith y byddwch wedi ymaelodi, cewch:
- fenthyg hyd at 20 llyfr ar y tro, am gyfnod o 3 wythnos
- benthyg 2 DVD am gyfnod o wythnos am ffi rhesymol
- ddefnyddio cyfrifiaduron ac Wi-Fi'r llyfrgell yn rhad ac am ddim
- fynediad at adnoddau digidol am ddim
- fynediad at e-lyfrau ac e-lyfrau llafar am ddim
- fynediad at e-gylchgronau am ddim.
Cyfrif llyfrgell ar-lein
- Mae'n bosib rheoli eich cyfrif llyfrgell ar-lein drwy ymweld â'n catalog ar-lein.
- Byddwch angen rhif PIN. Er mwyn cael eich rhif PIN bydd angen i chi alw yn eich llyfrgell leol, gyda'ch cerdyn llyfrgell a dogfen adnabod.
Ymuno fel aelodau ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Os ydych yn aelod yn llyfrgelloedd Gwynedd gallwch gofrestru i gael mynediad i adnoddau electronig Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

