Gwasanaeth i blant a phobl ifanc

Mae llyfrgelloedd Gwynedd yn derbyn llyfrau newydd i stoc yn wythnosol. Ac mae yna rywbeth at ddant pawb. Mae hefyd yn bosib:

  • syrffio’r we am ddim
  • cael cymorth gyda gwaith cartref a phrosiectau drwy ddefnyddio ein casgliad eang o lyfrau
  • cael mynediad i lawer o wefannau i helpu gyda gwaith cartref
  • cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf yn ystod gwyliau'r haf
  • benthyg Sach Stori (sach yn cynnwys llyfr stori, gemau a theganau) - ar gyfer y plant ieuengaf
LogoFacebook48LogoInstagram48LogoTwitter48

Bag Books

Casgliad o adnoddau aml-synhwyraidd yw Bag Books ar gyfer eu defnyddio gan oedolion gyda phlant a phobl ifanc gydag anawsterau dysgu.

Ar gael i’w archebu o unrhyw llyfrgell yng Ngwynedd neu trwy ffonio 01286 679465 neu e-bostio llyfrgell@gwynedd.llyw.cymru

Teitlau sydd ar gael:The Match, What Am I?, Lost in London, Maria’s Ball, Gran’s Visit, A Day at the Seaside, CJ The Library Cat, Desmond

Help llaw mewn llyfr

Mae llyfrau ar gyfer pob math o sefyllfaoedd, ac yn aml, gellir cyflwyno problem neu bwnc anodd i blant ifanc trwy gyfrwng llyfr stori a llun. Mae’r casgliad yn amrywio ar gyfer ystod oedran i fyny at yr arddegau cynnar:

I wneud cais am lyfr ar bwnc arbennig ar gyfer oedran penodol, cysylltwch â’ch llyfrgell leol neu cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaethau Defnyddwyr  ar 01286 679465 neu llyfrgell@gwynedd.llyw.cymru

 

Llyfrau print mawr a braille

Casgliad o lyfrau Print Mawr Iawn a Braille sy’n rhoi cyfle i blant neu oedolion ag anawsterau golwg i rannu stori gyda’i gilydd.Ar gael i’w archebu o unrhyw llyfrgell yng Ngwynedd neu trwy ffonio 01286 679465 neu e-bostio llyfrgell@gwynedd.llyw.cymru

Teitlau sydd ar gael:

  • Dear Zoo—Rod Campbell - Elmer - David McKee
  • Handa’s Hen - Eileen Browne - Penguin - Polly Dunbar
  • Just Like Jasper - Nick Butterworth
  • The Gruffalo - Julia Donaldson
  • Dogger - Shirley Hughes
  • The Little Mouse, the Red Ripe Strawberry, and the Big Hungry Bear—Don Wood
  • The Tiger who came to Tea - Judith Kerr
  • The Very Hungry Caterpillar - Eric Carle
  • We’re Going on a Bear Hunt - Michael Rosen
  • Monkey and Me - Emily Gravett
  • Aliens Love Underpants
  • Each Peach Pear Plum
  • The Day Louis Got Eaten
  • Giraffe’s Can’t Dance
  • Blue Balloon
  • Buster's Birthday
  • Dear Zoo
  • Dogger
  • Orange Pear Apple Bear
  • Hugless Douglas
  • I'm the best
  • Little Princess - I don't Want to Go To Bed –
  • Mr Gumpy's Outing
  • No Matter What
  • Norman Slug & His Silly Shell
  • Owl Babies
  • Pants
  • Peace at Last
  • Shark In The Park
  • Six Dinner Sid
  • Walking Through The Jungle
  • Yes
  • This is the Bear
  • The Smartest Giant in Town


Llyfrau Plant Makaton

  • Detholiad o lyfrau plant Makaton
  • A Trip to the Seaside: A story book with Makaton
  • A Trip to the Park: A story book with Makaton
  • A Trip to the Zoo
  • Christmas


Dechrau da

Mae hwn yn gynllun cenedlaethol sy’n helpu teuluoedd i ddarganfod a mwynhau yr hwyl o rannu llyfrau.  Mae pob baban yn derbyn pecyn Dechrau Da ar ei asesiad iechyd rhwng  8 - 12 mis oed gan ei ymwelydd iechyd a phecyn Blynyddoedd Cynnar ar ei asesiad iechyd 24 mis - am ddim. Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn Dechrau Da na'ch pecyn Blynyddoedd Cynnar - holwch eich ymwelydd iechyd.

Rhagor o wybodaeth: Gwefan Dechrau Da