Gwasanaeth Archebu a Chasglu / Cludo Gartref
Erbyn hyn mae’n bosib archebu llyfrau, a byddwn yn cysylltu efo chi pan fyddant yn barod i’w casglu o’r llyfrgell. Mae gwasanaeth cludo i’r cartref hefyd ar gael os nad ydych yn gallu dod i’r llyfrgell i gasglu’r archeb.
Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?
- Bydd angen i chi fod yn aelod o lyfrgell Gwynedd er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Gallwch ymaelodi ar-lein, neu drwy ffonio eich llyfrgell leol.
Os ydych yn aelod yn barod, byddwch angen rhif eich cerdyn llyfrgell.
- Os ydych yn gwybod pa lyfr rydych am ei archebu, y ffordd hawsaf ydi archebu drwy’r catalog llyfrgell.
Archebu llyfr o’r catalog llyfrgell
- Os nad ydych yn gwybod pa lyfr yn union rydych ei eisiau, gallwch archebu pecyn parod 6 llyfr o’r llyfrgell. Gallwch ddewis y math o lyfrau rydych am eu derbyn (e.e. rhamant, plant, ffuglen ayyb) neu gallwch nodi eich dymuniad am lyfrau gan awdur penodol, neu bwnc penodol e.e. garddio.
Archebu pecyn llyfrau o’r llyfrgell
- Os ydych wedi dewis CASGLU O’R LLYFRGELL, bydd y llyfrgell yn cysylltu gyda chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith i roi gwybod pryd bydd y llyfrau yn barod i’w casglu, a threfnu amser ar gyfer gwneud hynny.
Os ydych wedi dewis CLUDO I’R CARTREF, bydd y llyfrgell yn cysylltu gyda chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith i roi gwybod pryd bydd y llyfrau’n eich cyrraedd. Bydd y gyrrwr yn cnocio ar y drws ac yn gadael y llyfrau ar eich stepen drws. Os na fydd ateb, bydd y gyrrwr yn gadael nodyn fel bod modd i chi gysylltu gyda'r llyfrgell i ail drefnu amser. Os oes gennych lyfrau sydd angen mynd yn ôl i’r llyfrgell, dylech eu gadael mewn bag / bocs ar stepen eich drws ychydig cyn i’r gyrrwr gyrraedd. Nid oes modd trefnu i’r gyrrwr gasglu llyfrau yn unig.
- Dychwelyd llyfrau: Yn ystod y cyfnod hwn, nid oes dyddiad penodol ar gyfer dod â llyfrau yn ôl (bydd y cyfnod benthyg yn cael ei adnewyddu’n awtomatig) ac ni fydd dirwyon.
Os ydych eisiau mynd â llyfrau yn ôl i’r llyfrgell, bydd bin y tu allan i’r llyfrgelloedd yn ystod oriau agor (manylion oriau agor ar dudalen Eich Llyfrgell Leol).