Llyfrgell Blaenau Ffestiniog
Mae'r llyfrgell ar agor ar gyfer pori a defnyddio cyfrifiaduron trwy apwyntiad yn unig. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad cyn galw os gwelwch yn dda.
Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth Clicio a Chasglu a gwasanaeth Cludo i’r Cartref.
Close


Ymweld â ni
Bydd angen i chi wneud apwyntiad cyn dod draw.
I wneud apwyntiad i chwilio am lyfr neu ddefnyddio cyfrifiadur, cysylltwch â ni:
Ffôn: (01766) 830415
E-bost: LLBlaenau@gwynedd.llyw.cymru
Cyfeiriad: Llyfrgell Blaenau Ffestiniog, Canolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, LL41 3DL
Cofiwch!
- rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn y llyfrgell a defnyddio'r diheintydd dwylo fydd ar gael
- bydd angen rhoi eich manylion cyswllt er mwyn gallu Olrhain Cysylltiadau. Gweld yr Hysbysiad Preifatrwydd.
Oriau agor
(drwy apwyntiad yn unig)
* mynediad i ddefnyddio cyfrifiadur yn unig.
Oriau agor newydd
Diwrnod | Amser |
Dydd Llun |
10:00 - 12:00 2:00 - 4:00*
|
Dydd Mawrth |
Ar gau
|
Dydd Mercher |
10:00 - 12:00* 2:00 - 4:00
|
Dydd Iau |
10:00 - 12:00 2:00 - 4:00*
|
Dydd Gwener |
10:00 - 12:00* 2:00 - 4:00
|
Dydd Sadwrn |
10:00 - 12:00
|
Bydd biniau y tu allan i’r adeilad yn ystod yr oriau yma ar gyfer dychwelyd llyfrau.
Gwasanaeth Archebu a Chasglu / Cludo i’r Cartref
Os nad ydych am ddod draw i chwilio am lyfr mae hefyd yn bosib archebu pecyn llyfrau wedi ei ddewis i chi gan staff y llyfrgell. Gwybodaeth am sut mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio
Archebu pecyn llyfrau
Neu os ydych yn gwybod pa lyfr rydych eisiau, gallwch archebu llyfr drwy'r catalog llyfrgell.
Cliciwch ar y map i’w wneud yn fwy
Adnoddau
- Mynediad band llydan, rhad ac am ddim, i'r rhyngrwyd
- 7 cyfrifiadur cyhoeddus
- Llungopïwr
- Oriel gelf
- Swyddfeydd ar gael i'w llogi
Cyswllt Wi-Fi
- Cynigir pwynt mynediad Wi-Fi, yn rhad ac am ddim.
Cylchgronau a Phapurau Newydd
- Caernarfon & Denbigh Herald
- Cambrian News
- Daily Post + Yr Herald Gymraeg
- Mellten
- Llafar Bro
- Which?