Tîm Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar
Rhoi'r Dechrau Gorau mewn Bywyd i Bob Plentyn
Mae Tîm Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar yn grŵp o athrawon profiadol sy'n gweithio i sicrhau bod pob plentyn ifanc — o'i enedigaeth hyd at 5 oed— yn cael y dechrau gorau posibl i'w taith dysgu.
Maent yn cefnogi 65 o leoliadau Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd a gwarchodwyr plant ar draws Gwynedd lle mae’r tim ar gael i helpu gan gynnig hyfforddiant, adnoddau ac arweiniad i ddarparwyr Addysg Feithrin, Dechrau’n Deg a'r darparwyr sydd yn cynnig y cynllun Gofal Plant dwy oed.
Rôl yr Athrawes Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar (AYBC) yw cefnogi ac arwain agweddau addysg feithrin a Dechrau’n Deg o fewn lleoliadau hyn.
Sut mae’r tîm yn Cefnogi Blynyddoedd Cynnar Eich Plentyn
Maent yn gweithio'n agos gyda lleoliadau blynyddoedd cynnar i'w helpu i ddarparu addysg a gofal o'r ansawdd uchaf. Mae hyn yn cynnwys:
- Helpu staff i ddatblygu eu gweithgareddau addysgu a chwarae fel y gall plant archwilio, darganfod a dysgu sgiliau newydd bob dydd.
- Sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gynnwys, beth bynnag fo'u cefndir, gallu neu anghenion ychwanegol.
- Cefnogi plant ag anghenion addysgol ychwanegol neu anableddau (ADY) trwy gynnig cyngor a strategaethau arbenigol i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth cywir.
- Annog perthnasoedd cadarnhaol rhwng lleoliadau a theuluoedd, fel bod rhieni'n teimlo'n hyderus ac yn rhan o addysg gynnar eu plentyn.
Pam mae'r gwaith yn bwysig?
Mae'r blynyddoedd cynnar yn gyfnod gwerthfawr pan fydd diddordeb, iaith a hyder plant yn tyfu'n gyflym. Drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar, mae’r tîm yn helpu i greu profiadau dysgu llawen sy'n adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer yr ysgol a bywyd.
Pan fydd teuluoedd, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac athrawon ymgynghorol yn gweithio gyda'i gilydd, mae plant yn elwa fwyaf — gan ddatblygu annibyniaeth, cariad at ddysgu, a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Gwybodaeth Ddefnyddiol i ddarparwyr / Linciau defnyddiol
Mwy o wybdoaeth
I gysylltu â’r Tim ffoniwch: