Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen sy’n cynnig cymorth a chyfleoedd ychwanegol i deuluoedd gyda phlant dan 4 oed sy’n byw mewn cymunedau penodol o Wynedd.

Ei nod yw cefnogi rhieni a rhoi’r dechrau gorau posibl i blant yn eu blynyddoedd cynnar


Cymunedau sy'n rhan o Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg yn cefnogi teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd penodol yng Ngwynedd, gan gynnwys Bangor, Bethesda, Caernarfon, Deiniolen, Dyffryn Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Dolgellau.

Gan fod eich hawl i gael cymorth drwy'r cynllun yn dibynnu ar eich cod post, defnyddiwch y gwiriwr cod post isod i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth gan Dechrau'n Deg.


Mae Dechrau'n Deg yn cynnig:

Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Mae ymwelwyr iechyd yn gallu treulio mwy o amser gyda theuluoedd unigol, gan gynnig cefnogaeth wrth fagu plant. Mae’r tîm ehangach yn darparu:

  • Cyrsiau rhiantu
  • Grwpiau fel tylino/mwytho babi
  • Sesiynau hybu iechyd

Cymorth gyda llefaredd, iaith a chyfathrebu

Mae swyddogion Datblygiad Cynnar a Chwarae yn cynnig:

  • Sesiynau 1:1 yn y cartref neu mewn lleoliadau Dechrau’n Deg
  • Sesiynau grŵp i ddatblygu sgiliau iaith, cyfathrebu a chwarae

Cefnogaeth Rhiantu

Mae swyddogion arbenigol yn darparu:

  • Pecynnau cefnogaeth magu teulu
  • Sesiynau 1:1 yn y cartref
  • Arweiniad ar faterion ymarferol megis trefn y cartref
  • Sesiynau grŵp fel Y Blynyddoedd Rhyfeddol a Nurture Links

Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig hyd at 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant 2–3 oed yn ystod y tri thymor ysgol. Gall plentyn ddechrau yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 2 oed.

Pen-blwydd y plentynDyddiad cychwyn gofal plant
1 Medi – 31 RhagfyrAr ôl gwyliau’r Nadolig
1 Ionawr – 31 MawrthAr ôl gwyliau’r Pasg
1 Ebrill – 31 AwstAr ôl gwyliau’r Haf

Mae 16 darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg yng Ngwynedd

Gweld mwy o wybodaeth am ofal plant yng Ngwynedd.


Cyswllt

Eich Ymwelydd Iechyd yw eich prif gyswllt â Dechrau'n Deg.

Neu cysylltwch â'r Tîm Canolog ar: