10 awr Addysg Feithrin (Dysgu Sylfaen) Am Ddim i Blant 3 Oed

Mae hawl gan eich plentyn i gael 10 awr yr wythnos o addysg feithrin ran-amser pan fyddent yn 3 oed yma yng Ngwynedd.

Byddai eich plentyn yn dechrau addysg feithrin Dysgu Sylfaen (yn agor mewn tab newydd) o’r tymor yn dilyn ei pen-blwydd yn dair oed.

Penblwydd eich plentynPryd all fy mhlentyn ddechrau yng Nghyfnod Dysgu Sylfaen
1 Medi i 31 RhagfyrDechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr
1 Ionawr i 31 MawrthDechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill
1 Ebrill i 31 AwstDechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Medi

Darperir addysg feithrin drwy’r Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd neu Gylchoedd Chwarae. Rhaid cofio nad yw pob Cylch Meithrin, Meithrinfa neu Gylch Chwarae wedi cofrestru fel Darparwr Addysg Feithrin. Gweler rhestr o leoliadau sydd wedi ei gymeradwyo yma gan ddewis ‘Yn cynnig y Cyfnod Sylfaen Meithrin’ yn y blwch ‘Cyfleusterau’ ac wedyn hildio y rhestr.

Os bydd eich plentyn yn hawlio'r oriau hyn o fewn Cylch Meithrin neu Feithrinfa yna mae modd cael ffurflenni priodol gan yr arweinydd/rheolwr.

Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 1 Ebrill a 31 Awst a bydd y tymor ysgol yn dechrau mis Medi, fe fydd eich hawliad am 10 awr o addysg feithrin yn cael ei gynnwys wrth gofrestru (yn agor mewn tab newydd) eich plentyn i gael mynediad i ddosbarth meithrin ysgol ac ni fydd angen gwneud dim pellach.