Iechyd Meddwl

Gall problemau iechyd meddwl effeithio unrhyw un ar unrhyw amser. Mae timau iechyd meddwl Cyngor Gwynedd, a arweinir gan weithwyr cymdeithasol, yn cynnig cefnogaeth a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi unigolion dros 18 oed, a’u gofalwyr, gyda’u anghenion iechyd meddwl. 

Llyfryn gwybodaeth 'Edrych ar ôl fy hun' - Llyfryn gwybodaeth sy'n cynnig syniadau am sut i edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles. 

Mae llyfrau cymorth hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol: Llyfrau ar Bresgripsiwn Darllen Yn Well: Iechyd Meddwl 

 

Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl - Cyngor Gwynedd

Mae dau dîm o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogol gan Cyngor Gwynedd i gynorthwyo unigolion gyda’u anghenion iechyd meddwl.  

 

Gallwn:

  • ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cymdeithasol i bobl ag anghenion iechyd meddwl
  • eich helpu i gael cymorth personol i'ch helpu i fyw mor annibynnol â phosib
  • cynnig cyngor a rhannu manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol
  • cefnogi gofalwyr.

Ni allwn:

  • ddarparu gwasanaeth brys (i gael gwasanaeth brys ffoniwch 111 a dewis opsiwn 2)
  • ddarparu meddyginiaeth (cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu Tim Iechyd Meddwl Cymunedol (GiG)



Cysylltu â ni

Os ydych yn teimlo eich bod chi neu rywun arall angen y gefnogaeth hon, gofynnwch i'ch meddyg eich cyfeirio atom.

Neu cysylltwch ag un o'n timau yn uniongyrchol (Hunan gyfeirio):

Mae’n hanfodol bod yr unigolyn wedi rhoi caniatâd cyn bod modd eu cyfeirio at y gwasanaeth.

Gwasanaeth Brys

Mae cymorth Iechyd Meddwl brys ar gael gan GiG Cymru, 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos. Ffoniwch 111 a dewis opsiwn 2

Close

 


Gwybodaeth bellach


Cysylltau defnyddiol

 

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Clinigol

Bydd unigolion sydd yn cael/ neu sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl clinigol yn parhau i’w dderbyn gan y Gwasanaeth Iechyd (BIPBC), unai yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd (Ardal Arfon) neu Ysbyty Alltwen (Ardal De Gwynedd):

  • Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd 03000 840306
  • Ysbyty Alltwen, Tremadog, Porthmadog, Gwynedd 03000 850027   

Bydd unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl clinigol a chymdeithasol yn derbyn cefnogaeth gan y ddau wasanaeth.