Datganiadau Preifatrwydd Gwasanaeth Plant

 

Mae'r datganaid hwn yn cadarnhau sut, a pha wybodaeth mae'r Gwasanaeth Plant a Gwarchod Teuluoedd yn ei ddal am unigolion. Mae'r Adran yn cadw gwybodaeth am unrhyw unigolun sydd wedi dod i gyswllt â’r Adran, boed hynny os ydynt yn derbyn gwasanaethau ar hyn o bryd neu eu bod wedi derbyn gwasanaethau yn y gorffennol.

Pam ydym yn casglu’r wybodaeth?

Rydym angen defnyddio gwybodaeth amdanoch chi er mwyn:

  • asesu eich anghenion gofal cymdeithasol a thrafod y gwasanaethau sydd ar gael i gwrdd â’r anghenion hynny
  • monitro eich cynnydd a gofal
  • rhoi gofal a chymorth
  • ymchwilio i honiadau o drosedd neu o gamdriniaeth
  • ymchwilio i gwynion
  • edrych ar ansawdd gwasanaethau

Mae darparu’r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn fater sensitif. Mae gennych hawl gyfreithiol i ddisgwyl i unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu gael ei drin yn gyfrinachol a’i gadw’n ddiogel. Mae gan y Cyngor fesurau mewn lle sydd yn amddiffyn preifatrwydd yr unigolyn yn ystod y broses yma.

Cyfiawnhad dros Gasglu a Chofnodi Gwybodaeth Bersonol

Bydd Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd yn casglu’r wybodaeth bersonol er mwyn diogelu a darparu cefnogaeth i blant o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ynghyd â unrhyw gyfeiriad at ddeddfau a rheoliadau eraill megis Deddf Plant 1989. Mae prosesu’r wybodaeth bersonol yma yn angenrheidiol i’r Adran:

  1. ar gyfer ymateb i anghenion Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  2. am ei fod yn ymgymryd â thasg sydd er budd cyhoeddus 

Ni fydd yr Adran yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

Gwybodaeth y gallwn ei gasglu

  • Dyddiad geni, enw, cyfeiriad, manylion teuluol,
  • Manylion ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif Yswiriant Gwladol (mewn rhai achosion)
  • Rhif Cyfeirnod personol e.e. rhif Gwasanaeth Cymdeithasol, rhif Gwasanaeth Iechyd
  • Sefyllfa ariannol e.e. incwm, gwariant, manylion banc
  • Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Record o gwynion blaenorol
  • Adroddiadau diogelu
  • Gwybodaeth feddygol
  • Amgylchiadau personol e.e. statws llety
  • Darlun o edrychiad, disgrifiad edrychiad ac ymddygiad
  • Manylion iechyd corfforol a meddyliol
  • Hil ac ethnigrwydd
  • Credoau crefyddol
  • Troseddau, achosion yn eich erbyn, canlyniadau a dedfrydau

Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser.

Mae rhai mathau o wybodaeth yn sensitif e.e. iechyd, hil, ethnigrwydd, credoau crefyddol. Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth hon ydi oherwydd ein bod yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i’r Cyngor rannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid allanol a thrydydd sector os yw’n berthnasol i’r ddarpariaeth gofal. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:

  • Adrannau eraill y Cyngor gan gynnwys yr Adran Addysg
  • Cynghorau eraill
  • Darparwyr trydydd sector
  • Llywodraeth Cymru
  • Adrannau’r Llywodraeth fel yr HMRC a’r DWP
  • Yr Heddlu
  • Asiantaethau Credyd
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Asiantaethau a Darparwyr Tai
  • Cartrefi Gofal Preswyl
  • Cwmnïau Gwasanaeth Gofal Cymunedol
  • Cynrychiolydd sydd yn actio ar ran unigolyn mewn mater ble nad oes gan y person y gallu i wneud penderfyniadau eu hunain
  • Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Banciau a Chymdeithas Adeiladu

Caiff gwybodaeth ei rhannu mewn achosion o wir angen, ble gallwn wella ar y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig i’r unigolyn. Ni chaiff y wybodaeth ei rhannu felly oni bai fod angen cyfreithiol i wneud. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.

 

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd yr Adran yn cadw eich gwybodaeth yn unol a pholisi’r Adran am wybodaeth sydd yn ymwneud â phlant. Mae gennym restr o gyfnodau cadw ar gyfer gwaith yr Adran. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Gofal Cwsmer os gwelwch yn dda.
Ar ôl y cyfnod cadw fydd eich gwybodaeth yn cael ei waredu’n ddiogel.

Allwch chi weld pa wybodaeth mae’r Adran yn ei gadw amdanoch?

Mae gennych hawl i ofyn pa wybodaeth bersonol mae’r Adran yn ei gadw amdanoch. Mewn rhai amgylchiadau, bydd modd rhyddhau’r holl wybodaeth ond mewn amgylchiadau eraill ni fydd hynny’n bosibl, oherwydd:

  • ei fod yn cynnwys gwybodaeth am bobl eraill; neu
  • bod gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol yr unigolyn neu rywun arall.

Os na allwn roi mynediad i chi at eich gwybodaeth byddwn yn egluro’r rheswm dros wrthod.

Sut ydw i’n gwneud cais i weld y wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanaf?

  • Lawrlwythwch y ffurflen gais mynediad i wybodaeth bersonol
  • Anfonwch lythyr neu e-bost atom
  • Holwch ar lafar

Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf i brofi pwy ydych.

Unwaith y byddwn wedi derbyn prawf o’ch hunaniaeth, fe wnawn ni wedyn brosesu eich cais mewn 1 mis, neu mae gennym hawl i ymestyn y cyfnod hwn i 2 fis os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

Sut i gysylltu â ni?

Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn dymuno derbyn ffurflen gais ar e-bost neu yn y post, cysylltwch â ni ar y manylion isod:

Swyddog Gofal Cwsmer Plant a Chefnogi Teuluoedd

  • Ffôn: 01286 679151
  • E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad:Swyddog Gofal Cwsmer, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

 

Sut i gael mwy o wybodaeth am eich hawliau?

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis.

 

Rhannu eich gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru

 

Bydd rhywfaint o'r wybodaeth a gedwir amdanoch gan Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn helpu i gynnal ymchwil i wella'r gofal a'r cymorth sy'n cael ei ddarparu i chi a phobl eraill yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu'n gyfreithlon, ac yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil i gefnogi busnes swyddogol yn unig.

 

Pa wybodaeth fydd yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru?

Rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch, fel:

  • dyddiad geni
  • rhywedd
  • grŵp ethnig
  • statws anabledd
  • gwybodaeth arall am iechyd
  • Manylion sylfaenol am y gofal neu'r cymorth a ddarparwyd i chi
  • Ni fyddwn yn rhannu eich enw
  • Ni fyddwn yn rhannu enwau eich teulu a/neu ofalwyr
  • Ni fyddwn yn rhannu eich cyfeiriad

 

Sut bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio fy ngwybodaeth?

  • Er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau i bobl Cymru
  • Mesur ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu er mwyn eu gwella
  • Helpu i gynnal ymchwil i lesiant pobl – gall hyn gynnwys ei gyfuno â gwybodaeth o fath arall, fel data am iechyd neu addysg
  • Ni fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd mewn perthynas â chi'n bersonol
  • Ni fydd modd eich adnabod o unrhyw adroddiadau
  • Ni fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu na’i chyfuno mewn unrhyw ffordd a allai olygu bod modd eich adnabod

 

Beth yw fy hawliau o ran defnyddio data amdanaf?

  • Hawl i gael eich hysbysu (y rhybudd hwn)
  • Hawl i gael mynediad at y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • Hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • Hawl i wrthod neu gyfyngu ar gamau prosesu'r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • Hawl i ofyn am ddileu eich data (mewn amgylchiadau penodol)
  • Hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

 

A yw fy ngwybodaeth yn ddiogel?

Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei hanfon a'i storio'n ddiogel. Byddwn yn ei rheoli’n ofalus, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei defnyddio yn y ffyrdd sy'n cael eu nodi yma yn unig.

 

A yw casglu'r data yn gyfreithlon?

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu'r data gan ddefnyddio pwerau sydd wedi'u gosod mewn deddfwriaeth, ac i sicrhau bod modd i ni gyflawni swyddogaethau cyhoeddus a gofynion statudol.

 

Am ba hyd fyddwch chi'n cadw'r data?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r data nes pen-blwydd y plentyn/oedolyn yn 25 oed. Bryd hynny bydd y data'n cael eu gwneud yn ddienw, ac yn parhau i gael eu defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig.

 

Rhagor o wybodaeth

I gael disgrifiad llawn o'r wybodaeth sy'n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru; eich hawliau a'r wybodaeth gyfreithiol berthnasol; neu ar gyfer cwynion, ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad isod.

Pwrpas
Pwrpas y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yw i adnabod a chefnogi pobl ifanc 11-24 oed i barhau neu ail-ymgysylltu efo addysg, hyfforddiant neu cyflogaeth. 

Pam ydym yn casglu’r wybodaeth?

Rydym angen defnyddio gwybodaeth amdanoch chi er mwyn:

  • Adnabod bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o ymddieithrio
  • Adnabod pobl ifanc nad ydynt mewn addysg / cyflogaeth a hyfforddiant• Adnabod, brocera a chydlynu cefnogaeth i bobl ifanc
  • Sicrhau bod systemau olrhain effeithlon ar waith
  • Adnabod pobl ifanc nad ydynt yn cyrchu unrhyw gymorth a / neu ddarpariaeth brif ffrwd ar hyn o bryd.
  • Cefnogi pobl ifanc ar gyfnodau trosglwyddo allweddol a sicrhau bod darpariaeth addas ar gael.
  • Atal dyblygu darpariaeth a sicrhau effeithlonrwydd gweithredol.
  • Sicrhau mwy o atebolrwydd am ganlyniadau gwell i bobl ifanc


Cyfiawnhad dros Gasglu a Chofnodi Gwybodaeth Bersonol

Adran 1, Pennod 2, Deddf Addysg 1996
Adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 


Gwybodaeth y gallwn ei gasglu

  • Enw Cyntaf
  • Cyfenw
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn a manylion cyswllt
  • Rhyw
  • Gwybodaeth am gyflwr iechyd corfforol neu meddyliol
  • Gwybodaeth am Droseddau
  • Cymwysterau a gyflawnwyd / canlyniadau
  • Dangosydd Allweddol Offeryn Proffilio Dysgwyr (LPT)
  • Manylion unrhyw ymwneud â sefydliadau allweddol
  • Gwybodaeth am sefydliad addysg cyn 16 a darparwr ôl-16
  • Statws 5 Haen Gyrfa Cymru
  • Rhwystrau Personol neu amgylchiadau sy'n cyfrannu at berson ifanc mewn perygl o beidio ag ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant neu waith.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i’r Cyngor rannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid allanol a thrydydd sector os yw’n berthnasol i drefnu cefnogaeth addas i chi. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Ysgolion Uwchradd Gwynedd
  • Gyrfa Cymru
  • Grwp Llandrillo Menai
  • Gisda
  • Canolfan Byd Gwaith
  • North Wales Training
  • Agoriad Cyf
  • Gweithredu Dros Blant
  • PaCE – Llywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwasanaeth Prawf
  • Sylfaen Cyf
  • Darparwyr Prosiectau Cronfa Cymdeithasol Ewrop

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gadw am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl gorffen cefnogi unigolion. 


Sut ydw i’n gwneud cais i weld y wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanaf?

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais ar y dudalen Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis

Sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) yn defnyddio gwybodaeth am blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n derbyn gwasanaeth i gynnal swyddogaethau penodol i atal troseddu neu aildroseddu. Rydym yn casglu ac yn dal eich gwybodaeth er mwyn

  • asesu anghenion pobl ifanc a chynnig cymorth
  • cyflwyno'r GCI ar draws Gwynedd a Môn er mwyn gwella'r gwasanaeth, y cynllunio a'r perfformiad

Pam bod gennym hawl i ddefnyddio'ch gwybodaeth

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi dod i gyswllt â'r system cyfiawnder troseddol gan eu bod wedi cyflawni trosedd, neu mewn perygl o droseddu.

Mae'r GCI yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth am unigolion yn gyfreithlon o dan y deddfwriaethau a ganlyn:

  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003
  • Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012
  • Deddf Rheoli Troseddwyr 2007
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1994
  • Deddf Plant 1989
  • Deddf Plant 2004
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Math y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Er mwyn darparu ein defnyddwyr gwasanaeth â gwasanaethau diogel o ansawdd uchel sy'n berthnasol i'w hanghenion, bydd y GCI yn casglu ac yn dal gwybodaeth am unigolion. Gall hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • manylion sylfaenol megis enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt
  • rhieni/gofalwyr, aelodau o'r teulu - enw, cyfeiriad, manylion cyswllt
  • hanes troseddu
  • asesiadau
  • pob cyswllt gyda'r GCI
  • cofnodion tai
  • cofnodion addysg
  • adroddiadau'r Heddlu
  • gwybodaeth am ddioddefwyr troseddau ieuenctid

Rydym hefyd yn casglu'r data categori arbennig a ganlyn:

  • rhyw
  • ethnigrwydd
  • crefydd
  • gwybodaeth feddygol
  • gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol eraill a allai fod ynghlwm, e.e. CAMHS, camddefnyddio sylweddau, iaith a lleferydd

Casglwn wybodaeth yn y ffyrdd a ganlyn:

  • wyneb yn wyneb
  • e-bost diogel
  • post
  • ffôn

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Mae rhannu gwybodaeth yn ein cynorthwyo i ddarparu defnyddwyr gwasanaeth â'r ymyraethau a'r gefnogaeth gorau bosib. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth berthnasol amdanoch chi gyda gwasanaethau eraill pan fyddant ynghlwm â'ch gofal a'ch cefnogaeth, neu pan fo sail gyfreithiol dros wneud hynny.

Mae amrediad o weithwyr proffesiynol a allai fod yn rhan o ddarparu gwasanaethau i chi a, pan fydd angen, byddant yn derbyn gwybodaeth berthnasol amdanoch chi.

Mae'r asiantaethau yr ydym yn rhannu gwybodaeth â nhw, neu'n derbyn gwybodaeth ganddynt, yn cynnwys y rhai a ganlyn, ond nid yw'r rhestr yn gyflawn:

  • Yr Heddlu
  • Asiantaethau barnwrol (llysoedd EM a gwasanaethau'r tribiwnlys, cyfreithwyr)
  • Gweithiwr Cymdeithasol Plant
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Gwasanaethau iechyd (ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, Meddygon Teulu, ymgynghorwyr)
  • Gwasanaethau/darparwyr addysg
  • Gwasanaethau/cyflenwyr tai
  • Cyllid a budd-daliadau
  • Gwasanaethau cyffuriau ac alcohol
  • Carchardai/sefydliadau diogel
  • Timau/gwasanaethau troseddu ieuenctid eraill
  • Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Sut caiff eich gwybodaeth ei chadw

Mae diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn bwysig i ni. Mae'r cofnodion y cadwn amdanoch chi yn ddiogel ac yn cael eu trin yn gyfrinachol. Mae gan y Cyngor amrediad o weithdrefnau, polisïau a systemau i sicrhau bod mynediad i'ch cofnodion yn cael eu rheoli'n briodol.

Mae unrhyw un sy'n derbyn gwybodaeth gennym hefyd dan ddyletswydd gyfreithiol i ddefnyddio'r wybodaeth er y dibenion a gytunwyd yn unig, ac i gadw'r wybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol.

A fydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo dramor?

Nid ydym yn prosesu eich data personol y tu allan i'r Deyrnas Unedig

A fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd?

Na, ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd

Am ba mor hir fyddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol, a pham?

Rhaid i ni gadw cofnodion busnes o'n hymglymiad â chi ar ffurf papur ac electronig. Bydd y math o wasanaeth y byddwch yn ei dderbyn yn pennu pa mor hir sydd gennym i gadw'ch gwybodaeth bersonol. Nid yw data yn cael ei ddal yn hirach na'r angen.

Am wybodaeth am ein cyfnodau cadw, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor.

Eich hawliau a manylion y Swyddog Diogelu Data

Am wybodaeth am eich hawliau, a manylion Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, gweler y Datganiad preifatrwydd 

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae Dechrau’n Deg wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ein pwrpas ydi darparu gwasanaeth i  oedolion a phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig yng Ngwynedd. Mae hyn yn golygu cynnig gofal plant o safon ar sail rhan-amser, gwasanaeth ymwelwyr iechyd ehangach, mynediad i raglenni rhiantu a chefnogaeth iaith a therapi. 

Er mwyn cynnig gwasanaeth mae angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi a’ch teulu.

Wrth wneud hyn, rhaid i ni gadw at reolau diogelu data sef Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Y sail gyfreithiol rydym yn ei ddefnyddio i broses eich gwybodaeth bersonol ydi erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatau i ni brosesu gwybodaeth bersonol pan fo angen gwneud hynny er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus.

Os ydi’r wybodaeth a roddir i ni yn cynnwys data categori arbennig e.e. gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, rydym yn defnyddio erthyglau 9(2)(g) a (h) y GDPR sy’n golygu ein bod ni’n prosesu gwybodaeth er budd cyhoeddus sylweddol ac am resymau iechyd.

Be ‘da ni angen a pham

Byddwn yn  rhannu gwybodaeth amdanoch chi, e.e. enw a chyfeiriad. Beth bynnag, fe fyddwn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth fwy manwl am anghenion datblygu ac anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn. Rydym yn gwneud hyn er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau bosib i chi ac i wneud yn siŵr eich bod ni’n teilwrio’r gwasanaeth i’ch anghenion penodol chi.

Sut ‘da ni yn defnyddio eich gwybodaeth

Fe wnawn ni roi eich manylion ar ein system. Mi fyddwn ni hefyd yn rhannu eich gwybodaeth efo partneriaid perthnasol gan gynnwys y bwrdd iechyd, addysg, Barnados a lleoliadau gofal plant sy’n rhan o’r cynllun.

Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth fesul achos a phan fo angen.

Am faint fyddwn yn cadw’r wybodaeth 

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am y cyfnodau cadw a nodir ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Eich hawliau

Mae nifer o hawliau ar gael o dan deddfwriaeth diogelu data. Am fwy o wybodaeth am hyn a manylion  Swyddog Diogelu Data’r Cyngor, ewch i Eich hawliau

Chwefror 2022

Pwrpas a sail gyfreithiol prosesu

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am eich plentyn / person ifanc er mwyn darparu gwybodaeth, asesiad, ymyrraeth a chefnogaeth i chi. Ni ddefnyddi’r y gwybodaeth ar gyfer unrhyw bwrpas arall.

Ein sail gyfreithiol dros wneud hyn o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ydi Erthygl 6(1) (c)  oherwydd ei fod yn dasg gyhoeddus ac Erthygl 9(2)(h) am ei fod yn rhan o’n pwrpas iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i rannu gwybodaeth efo sefydliadau tu allan i’r maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Beth rydym yn ei gasglu

Yn fras, byddwn yn casglu a chofnodi gwybodaeth fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt a gwybodaeth addysgol / meddygol berthnasol.

Efo pwy byddwn yn rhannu’r wybodaeth

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth efo staff y Bwrdd Iechyd e.e. nyrsus a pediatryddion cymunedol, adrannau eraill Cyngor Gwynedd a lle bo angen efo ysgolion, colegau, meddygon teulu, meithrinfeydd a Carers Outreach.

Pa mor hir byddwn yn cadw’r wybodaeth

Rydym yn cadw’r wybodaeth am y cyfnodau a nodir yn ein polisi cadw. Ar ddiwedd y cyfnod, caiff y wybodaeth ei dinistrio’n ddiogel.

Eich hawliau

Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cwyn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor: SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru 

Gwybodaeth i deuluoedd ar ein defnydd o wybodaeth bersonol 

Rydym yn cadw at reolau diogelu data wrth gasglu a thrin eich gwybodaeth. Mae hyn yn golygu mai’r unig gofnodion y gallwn eu cadw ydi’r rhai sy’n berthnasol i’n gwaith ni efo chi. Rhaid i’r cofnodion hyn fod yn gywir, yn gyfoes, yn ddiogel ac yn cael eu cadw am gyfnod penodol yn unig.

Pa wybodaeth ydym yn cofnodi?

Rydym yn cofnodi gwybodaeth sylfaenol am bwy ydych chi, lle rydych yn byw, pam yr ydych yn defnyddio gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu ac am y gwaith rydym yn wneud â chi.

Beth ydi’n sail gyfreithiol ni dros wneud hyn?

Gan ein bod yn gweithio o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 rydym yn gwneud fel rhan o’n tasg gyhoeddus o dan Erthygl 6(1)(e) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac Erthygl (2)(h) ar gyfer gwybodaeth sensitif.

Pam ac efo pwy byddwn yn rhannu’r wybodaeth?

Byddwn yn rhannu gwybodaeth efo’r bobl sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda chi fel teulu, i sicrhau eu bod yn gallu cydweithio yn y dull mwy effeithiol a bod eich teulu yn derbyn y cymorth mwyaf priodol ar adeg amserol.

Bydd hyn yn cwtogi faint o weithiau bydd disgwyl i chi neu’ch plentyn ateb yr un cwestiynau sylfaenol drosodd a throsodd gan bobl wahanol

Rydym yn rhannu gwybodaeth efo’r Bwrdd Iechyd, Barnado’s, Y Bont, Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Adran Addysg ac ysgolion.

Gall arolygwr swyddogol edrych ar eich cofnod i weld a yw Tîm o Amgylch y Teulu yn gwneud ei waith fel y dylai a’i fod yn cadw cofnodion eglur a chywir.

Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth

Rydym yn cadw’r wybodaeth am gyfnod o hyd at 25 mlynedd.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i gael gweld y wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi a’ch plentyn. I gael manylion am eich hawliau a sut i gysylltu efo’r Swyddog Diogelu Data, ewch i’r darn Hawliau ar ein gwefan. 

Rhannu Data Personol gan Gyngor Gwynedd, o ran Plant sy’n derbyn Gofal a Chymorth ar gyfer Rhieni/Gofalwyr

Mae’r Cyngor yn prosesu data personol yn ddyddiol. Rydym yn cadw rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi (“data personol”). Felly rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n rhaid i unrhyw wybodaeth sydd gennym gael ei phrosesu yn unol â’r egwyddorion a restrir gan Reoliadau’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw.

Byddwn:

  • Yn parhau i gryfhau ein prosesau ar gyfer cynnal a chadw preifatrwydd yr holl wybodaeth sydd gennym.
  • Angen i’n holl gyflogeion gydymffurfio’n llawn â chyfraith Diogelu Data.
  • Yn cadw cyn lleied o wybodaeth bersonol ag sydd ei hangen i’n galluogi i gyflawni ein rôl fel Cyngor.
  • Yn dileu gwybodaeth bersonol pan fydd yr angen i’w chadw wedi mynd heibio.
  • Yn cyrchu a phrosesu’r holl wybodaeth bersonol yn unol â phrosesu teg a gaiff ei nodi pan yn casglu gwybodaeth gan Unigolion.
  • Yn cynllunio ein systemau a’n prosesau er mwyn cydymffurfio ag egwyddorion diogelu data.
  • Yn cymryd camau gweithredu ar unwaith pe byddem yn darganfod na chydymffurfir â’n polisïau.

Dylunnir yr hysbysiad hwn i roi gwybodaeth i chi ynghylch y data amdanoch sydd gennym, sut y’i defnyddiwn, eich hawliau parthed y data hwnnw a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.

Pa ddata personol sydd gennym, a sut byddwn yn ei gaffael

Mae’r mathau o ddata personol sydd gennym ac y proseswn amdanoch yn gallu cynnwys:

  • Manylion cyswllt yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
  • Manylion adnabod gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhifau cyflogaeth ac aelodaeth.
  • Gwybodaeth a gaiff ei defnyddio i gyfrifo ac asesu cymhwysedd i gael buddion.
  • Gwybodaeth ariannol perthnasol i’r cyfrifiad neu dalu buddion, er enghraifft cyfrif banc a manylion treth.
  • Gwybodaeth ynghylch eich teulu, dibynyddion neu amgylchiadau personol, lle bo angen gan wasanaeth perthnasol.
  • Gwybodaeth am eich iechyd lle bo angen gan wasanaeth perthnasol megis Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Gwybodaeth ynghylch euogfarn droseddol lle bo’n berthnasol.

Lle rydych wedi rhoi gwybodaeth bersonol am unigolion eraill i ni, megis aelodau teulu neu ddibynyddion, sicrhewch fod yr unigolion yna yn ymwybodol o’r wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.


Sut byddwn yn defnyddio eich data personol

Efallai y byddwn yn prosesu eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau ac fe all hyn gynnwys prosesu eich data personol ar gyfer y cyfan neu rai o’r dibenion canlynol:

  • cysylltu â chi.
  • asesu cymhwysedd ar gyfer ein gwasanaethau gan gynnwys cyfrifo a rhoi buddion i chi.
  • nodi eich dewisiadau buddion gwirioneddol neu bosib.
  • dibenion ystadegol a chyfeiriadol.
  • cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol.
  • delio ag ymholiadau gennych ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosib yn ymwneud â chi.
  • Cyflogaeth


Sefydliadau y mae’n bosib y rhannwn eich data personol â hwy

O bryd i’w gilydd byddwn yn rhannu eich data personol â sefydliadau partner a darparwyr gwasanaeth fel y gallant ein cynorthwyo i weithredu’n dyletswyddau, hawliau a’n disgresiwn parthed y gwasanaethau a ddarparwn. Bydd rhai o’r sefydliadau hynny yn syml yn prosesu eich data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau. Ym mhob achos byddwn ond yn rhannu data i’r graddau yr ystyriwn fod angen rhesymol am y wybodaeth i’r dibenion hyn.

Caiff unrhyw Wybodaeth Bersonol sydd gennym ei datgelu, pan fydd diben rhesymol i:

  • Ein staff – pan fydd y wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith.
  • Y Llysoedd – o dan gyfarwyddyd Gorchymyn Llys.
  • Ein partneriaid – yn unol â gweithdrefnau a gytunwyd yn unig.
  • Eraill – fel y rhestrir yng nghofrestriad Diogelu Data’r Cyngor.

 

Dan Ddeddf Economi Ddigidol 2017, caiff y Cyngor rannu data personol a roddwyd i ni gyda Chynghorau eraill at ddibenion canfod/atal twyll neu droseddau, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac er mwyn ymchwil ystadegol.

Mae gan Gyngor Gwynedd ddyletswydd i amddiffyn y gronfa gyhoeddus mae’n ei rheoli. Felly, mae’n bosibl y caiff y wybodaeth rydych chi wedi ei rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll neu ei rhannu gyda Swyddogion y Cyngor sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cronfeydd cyhoeddus.

Pan fo cais neu os tybiwn bod angen rhesymol amdano, mae’n bosib y byddwn hefyd yn rhoi eich data i gyrff y llywodraeth a sefydliadau datrys anghydfodau a gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys y rhai a restrwyd uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Mae’n bosib y byddant wedyn yn defnyddio’r data i gyflawni eu swyddogaethau cyfreithiol.

Mewn rhai achosion, gall y derbynwyr hyn fod y tu allan i’r DU. Golyga hyn y gall eich data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) i awdurdodaeth na fydd efallai yn cynnig amddiffyniad i’r un lefel ag sydd yn ofynnol yng ngwledydd yr AEE. Os digwydd hyn, mae dyletswydd arnom i sicrhau fod camau diogelu yn cael eu gweithredu i ddiogelu eich data yn unol â’r cyfreithiau perthnasol. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os carech fwy o wybodaeth am y camau diogelwch sydd ar waith ar hyn o bryd.


Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol

Byddwn ond yn cadw eich data personol gyhyd ag y bydd ei angen arnom er mwyn cyflawni’r diben y’i casglwyd ar ei gyfer a chyhyd wedyn ag ein bod o’r farn y mae ei angen i fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau neu gwynion efallai a dderbyniwn, oni bai ein bod yn dewis cad eich data am gyfnod hwy er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.


Eich hawliau

Mae hawl gennych i gopi o’r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes unrhyw gamgymeriadau ynddo neu wybodaeth sy’n hen. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib y bydd hawl gennych i ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan y gwirir unrhyw gamgymeriadau, i wrthwynebu i ni brosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn), ofyn i ni ddileu eich data personol.

Os carech weithredu un o’r hawliau hyn neu os oes ymholiad neu bryder gennych parthed prosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn yn gysylltiedig â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, neu weithgareddau prosesu’r Cyngor a gerbron Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy’r wefan isod neu eu llinell gymorth ar y ffôn.

Gallwch gael gwybodaeth bellach ynghylch yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy eu llinell gymorth 0303 123 1113.


Ein swyddogaeth fel rheolwr data

Mae’r Cyngor yn cadw eich data personol yn rhinwedd ei swyddogaeth fel rheolwr data. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich data er mwyn cysylltu â chi, i gyfrifo, diogelu a thalu eich buddion, ac at ddibenion ystadegol a chyfeiriadol. Mae mwy o wybodaeth ynghylch y modd y defnyddiwn eich data personol ar gael isod.

Yn gyffredinol, ar un o’r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol:

  • mae arnom angen prosesu eich data personol er mwyn cyflawni’r gofynion cyfreithiol sydd arnom fel Awdurdod Lleol
  • mae arnom angen prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus; [ac/neu]
  • oherwydd ein bod angen prosesu eich data personol i ateb ein rhwymedigaethau contractiol i chi
  • mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu diddordeb hanfodol gwrthrych y data neu berson arall naturiol.

Diweddariadau i’r hysbysiad preifatrwydd

Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn yn achlysurol. Pan fyddwn yn gwneud hyn byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a’r dyddiadau y daw’r newidiadau i rym.

Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cwyn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor: SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru