Dechrau'n Deg

Efallai eich bod yn byw mewn pentref sydd yn derbyn Gwasanaeth Cefnogi Teulu drwy raglen Dechrau’n Deg. Mae Dechrau’n Deg yn cynnig mwy o gymorth a chyfleoedd i deuluoedd sydd gyda phlant dan 4 oed sy’n byw mewn cymunedau penodol o Wynedd.

Mae Dechrau'n Deg yn cynnig cymorth i rieni wrth i'w plant dyfu a datblygu.

  • Ymwelwyr Iechyd
    Mae ein ymwelwyr iechyd yn gallu treulio mwy o amser efo teuluoedd unigol, eu cefnogi a bod o help i rieni wrth fagu plant. Mae'r tîm iechyd ehangach yn cynnig cyrsiau rhiantu, grwpiau gwahanol fel Tylino / Mwytho Babi a sesiynau hybu iechyd. 
  • Llefaredd, iaith a chyfathrebu 
    Mae ein tîm o swyddogion Datblygiad Cynnar a Chwarae yn cynnig sesiynau 1:1 yn y cartref neu yn un o leoliadau Dechrau'n Deg.

    Bydd y swyddogion yn gweithio'n agos gydag aelodau eraill gan gynnig sesiynau grŵp i ddatblygu sgiliau datblygiad cynnar a chwarae.
  • Cefnogaeth Rhiantu 
    Mae tîm o swyddogion arbenigol yn cynnig pecynnau cefnogaeth magu teulu, sesiynau 1:1 yn y cartref, arweiniad a help i ddatrys problemau fel sefyllfa'r cartref. Mae sesiynau'n grŵp ar gael i rieni, fel Y Blynyddoedd Rhyfeddol a Nurture Links.
  • Gofal Plant: 

    Rydym yn cynnig hyd at 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant 2 - 3 oed yn ystod y tri thymor ysgol. Bydd plant yn gallu cychwyn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 2 oed.  

  • A mwy...

    Mae Dechrau’n Deg yn cynnal cyrsiau, gofal plant ac yn cynnig cyfle i chwarae a chymdeithasu mewn llawer o lleoliadau.

    Mae Dechrau’n Deg hefyd yn gweithio’n agos gyda phrosiectau fel Teuluoedd yn Gyntaf i gynnig cyfleoedd a phofiadau i deuluoedd Gwynedd.  

Gall plentyn dderbyn Gofal Plant Dechrau’n Deg y tymor ar ôl iddynt troi yn 2 oed.  

oed dechrau'n deg
Dyddiad mae'r plentyn yn troi yn 2 oed Dyddiad gall plentyn ddechrau dderbyn
gofal plant 2 oed  
 1 Medi i 31 Rhagfyr  Dechrau ar ôl gwyliau'r Nadolig
 1 Ionawr i 31 Mawrth  Dechrau ar ôl gwyliau'r Pasg
  1 Ebrill i 31 Awst  Dechrau ar ôl gwyliau'r Haf 


Dyma'r lleoliadau gofal plant sydd ar gael:

Gofal plant
 Bangor Cylch Meithrinfa

Caban Cegin

     
 Caernarfon Cylch Meithrin 
Maesincla
Cylch Meithrin Seiont 
a Peblig 
Meithrinfa 
Plas 
Pawb 
 
 Blaenau  
 Ffestiniog
Cylch Meithrin Lle-Chi Meithrinfa O Law i Law    
 Bethesda Cylch Meithrin Cefnfaes Meithrinfa 
Ogwen
 Caban Ogwen  
 Dyffryn Nantlle Cylch Meithrin Talysarn Cylch Meithrin Carmel Cylch Meithrin Llanllyfni Cylch Meithrin Penygroes
 Dolgellau Cylch Meithrin Dolgellau      
Deiniolen Cylch Meithrin Deiniolen      
Tregarth Cylch Meithrin Tregarth      
Gweld mwy o wybodaeth: Gofal Plant Dechrau'n Deg

 

Lle mae Dechrau'n Deg ar gael?

Mae eich hawl i fanteision y Cynllun yn dibynnu ar eich cod post. Defnyddiwch y gwiriwr cod post isod i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun ai peidio:


 

Mwy o wybodaeth

Eich Ymwelydd Iechyd yw eich prif gyswllt â Dechrau'n Deg.

Neu cysylltwch â'r Tîm Canolog ar:
01286 678 824 / DechraunDeg@Gwynedd.llyw.cymru

 

 

Beth ydym ni'n gwneud â'ch a sut rydym yn defnyddio eich data?