Nofio
- Gwiriwch y dyfnder a'r gwely dŵr drwy gerdded i mewn yn ofalus. Gall ardaloedd o wely'r llyn ddisgyn ymaith yn sydyn.
- Ewch i mewn i'r dŵr yn araf er mwyn dod i arfer.
- Peidiwch â neidio neu blymio i mewn, nid ydych yn gwybod pa mor ddwfn yr ydyw ac mae gwely'r llyn yn cynnwys llechi miniog. Gallech hefyd gael sioc gan yr oerni.
- Dewiswch lwybr nofio ar hyd y draethlin fel y gallwch fynd allan yn hawdd os ydych angen
- Byddwch yn Weladwy! Gwisgwch gap nofio llachar a llusgwch fflôt llachar.
- Gwisgwch siwt wlyb er mwyn eich cadw'n gynhesach ac yn fwy nofiadwy.
- Peidiwch byth â mynd i nofio ar eich pen eich hun. Sicrhewch gefnogaeth - mae canŵ, caiac neu fwrdd padlo yn gweithio'n dda, sy'n ddelfrydol, yn arddangos fflag Alpha gwyn a glas, yn rhybuddio bod plymwyr neu nofwyr yn y dŵr
- Gall y llyn fod yn oer, hyd yn oed ar ddiwrnod poeth o haf. Gall dod i gyswllt â dŵr oer arwain yn gyflym at hypothermia, a gall y symptomau cynnar fel cael trafferth symud eich dwylo, wneud nofio yn anoddach na'r arfer yn sydyn.
- Peidiwch ag aros i mewn yn rhy hir.
- Sicrhewch fod gennych ddigon o haenau o ddillad, het a diod gynnes yn barod pan fyddwch yn dod o'r dŵr, hyd yn oed yn yr haf.
- Nofiwch pan fo'r tywydd yn addas yn unig - cofiwch fod pethau'n gallu newid yn sydyn
Cychod rhwyfo, canŵod, caiacau a byrddau padlo:
- Sicrhewch fod eich siaced achub neu'ch cymorth hynofedd wedi'i gymeradwyo gan CE.
- Gwisgwch eich siaced achub pan fyddwch yn ymyl y dŵr neu ar y dŵr.
- Ewch i ganŵio, caiacio neu fwrdd padlo gyda rhywun arall ac arhoswch yn agos at y lan.
- Gall cyfeiriad y gwynt newid yn sydyn a chryfhau'n gyflym, sy'n gwneud padlo'n galetach ac yn anoddach i ddychwelyd i'ch safle lansio. Gallai achosi i chi ddrifftio i ochr arall y llyn!
- Gwyliwch am nofwyr dŵr agored! Gallant fod yn anodd eu gweld.
- Cadwch cyn belled â phosib oddi wrth nofwyr a'u cychod cymorth.
- Ni chaniateir unrhyw gychod pŵer ar y llyn
Helpwch fywyd gwyllt cynhenid Llyn Padarn
Mae Llyn Padarn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Gall rhywogaethau bywyd gwyllt ymwthiol nad ydynt yn gynhenid sleifio yma ar eich offer, esgidiau, dillad nofio a chwch. Efallai y byddwch yn lledaenu'r estroniaid hyn yn anfwriadol, hyd yn oed os ydych ond yn mynd i badlo!
Pan fyddwch yn dod allan o’r llyn, dylech bob amser:
GWIRIO - GLANHAU - SYCHU
- GWIRIWCH eich offer a'ch dillad am organebau byw. Rhowch sylw arbennig i ardaloedd llaith neu anodd eu harchwilio.
- GLANHEWCH a golchwch yr holl offer, esgidiau, dillad nofio a dillad yn drylwyr. Os fyddwch yn darganfod unrhyw organebau, gadewch hwy wrth ymyl y dŵr lle daethoch ar eu traws neu ar arwyneb caled i farw.
- SYCHWCH eich offer a'ch dillad i gyd. Gall ambell rywogaeth fyw am sawl diwrnod mewn cyflyrau llaith.
Gweithgareddau grŵp ar Lyn Padarn
Mae trefnwyr gweithgareddau grŵp angen caniatâd i gynnal gweithgareddau o gwmpas ac ar Lyn Padarn a'i gyffiniau. Mae angen i weithredwyr masnachol dalu ffi. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â parcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru
Ansawdd Dŵr - Mae Llyn Padarn yn cael ei wirio’n rheolaidd gan Gyfoeth Naturiol Cymru
Mewn argyfwng cysylltwch â 999