Tystysgrif marwolaeth
Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif marwolaeth ar gyfer unrhyw un sydd wedi marw yng Ngwynedd ers 1837. Os ydych yn chwilio am dystysgrif hŷn na hyn, cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd.
Prynu copi o dystysgrif marwolaeth
- Faint mae tystysgrif marwolaeth yn ei gostio?
£11.00 am bob copi yn cynnwys postio ail ddosbarth (+ £1.10 i ddefnyddio gwasanaeth tracio gan y Post Brenhinol os yn dewis gwneud hynny)
- Sut mae gwneud cais am gopi?
Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd
Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon:
Prynu copi o dystysgrif marwolaetha'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
- Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.
Tystysgrif ar frys
Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib gwneud trefniant i chi gasglu’r dystysgrif ar y diwrnod y byddwch yn gwneud y cais
- Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif?
- Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am
- Yn swyddfa gofrestru Caernarfon: a thalu gyda siec, archeb bost neu arian parod cyn 10:30am
- Pryd alla i gasglu'r dystysgrif os yn cyflwyno cais brys?
Os byddwn wedi derbyn eich cais cyn 10.30am bydd y dystysgrif yn barod i'w chasglu ar ôl 3pm. Fel arall i'w chasglu ar ôl 3pm y diwrnod canlynol.
- O ble alla i gasglu'r dystysgrifos yn cyflwyno cais brys?
Swyddfa Gofrestru Caernarfon
- Cost am gais brys:
Cost am gais brys yw £35 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf (+ £1.10 i ddefnyddio gwasanaeth tracio gan y Post Brenhinol os yn dewis gwneud hynny)
Camgymeriad ar y dystysgrif marwolaeth
Os ydych yn amau fod camgymeriad ar dystysgrif marwolaeth, ffoniwch 01766 771000.
Hanes teulu
Ymwelwch ag
www.northwalesbmd.org.uk i ymchwilio i hanes eich teulu. Mae'r wefan yn rhoi manylion y mynegai sy'n berthnasol i'r Swyddfeydd Cofrestru.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.