Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
Lleisiwch eich barn ar Gynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd. Rydym yn awyddus clywed pa faterion newid hinsawdd sy’n bwysig i drigolion a chymunedau’r sir.
Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan yn glir bod ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur yn un o’i flaenoriaethau, ac mae Gwynedd Werdd yn un o 7 maes blaenoriaeth yng Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028.
Uchelgais y Cynllun yw “Bydd Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.” Mae’r uchelgais yn cyd-fynd â tharged Llywodraeth Cymru i sefydliadau’r sector gyhoeddus ar y cyd fod yn garbon sero net erbyn 2030 ac i Gymru fod yn wlad sero net erbyn 2050.
Mae ein Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn cynnwys nifer o brosiectau o fewn y prif themâu
- adeiladau ac ynni
- symud a thrafnidiaeth
- gwastraff
- llywodraethu
- caffael
- defnydd tir
- ecoleg
Bellach, hoffwn edrych ymhellach na gweithdrefnau ein hunain, a deall beth sydd yn bwysig i drigolion Gwynedd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Cynllun Argyfwng, darllenwch y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.
Rhoi eich barn
Dweud eich dweud - Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
- Wyneb-yn-wyneb – bydd swyddogion o Gyngor Gwynedd yn ymweld â lleoliadau gwahanol ar draws y sir yn ystod cyfnod yr ymarferiad. Cadwch lygaid ar wefannau cymdeithasol y Cyngor am fwy o wybodaeth.
- Ar bapur – mae copïau papur ar gael o lyfrgelloedd y sir neu’r dair swyddfa Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli Dolgellau). I dderbyn copi papur drwy’r post, neu mewn fformat amgen, cysylltwch â: NewidHinsawdd@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679144
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Iau, 31 Gorffennaf.