Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28

Pwrpas y Cynllun hwn yw gosod gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2028. Mae’r Cynllun yn dangos pam ein bod am ganolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau mewn rhai meysydd.

Mae’r Cynllun yn cynnwys nifer o brosiectau gwahanol sydd wedi eu rhestru dan wyth maes blaenoriaeth.

Rhagair Arweinydd y Cyngor

Rhagair i'r Cynllun gan y Cynghorydd Nia Jeffreys.

Gwynedd Yfory

Rhoi'r cychwyn gorau posib mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc.

Gwynedd Lewyrchus

Cryfhau'r economi a chefnogi pobl Gwynedd i ennill cyflogau teilwng.
Person ar gluniadur

Gwynedd Glyd

Cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau.
Tai Cymdeithasol Gwynedd

Gwynedd Ofalgar

Cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau.
Gafael dwylo

Gwynedd Gymraeg

Sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle posib i'n trigolion ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned.
Bathodyn Cymraeg

Gwynedd Werdd

Gwarchod harddwch naturiol y sir, ac ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng newid hinsawdd.
Machlud haul dros gae

Gwynedd Effeithlon

Rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg a sicrhau fod y Cyngor yn perfformio'n effeithiol ac effeithlon.
Dau berson yn edrych ar gluniadur

Gwynedd Gyfartal

Gwynedd lle rydym ni i gyd yn cael ein trin yn gyfartal.
Hands holding

Cynllun Ymateb: Cyfiawnder Drwy ein Dewrder

Lluniwyd Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i edrych, herio a gyrru’r holl ffrydiau gwaith sy’n deillio o’r adolygiadau ac ymchwiliadau yn dilyn troseddau Cyn-Bennaeth Ysgol Friars.

Mae’r Bwrdd yn un annibynnol sy’n cynnwys pobl broffesiynol o sefydliadau eraill fel Estyn, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Plant ac Arolygaeth Gofal Cymru,felly mae’n gallu edrych ar y gwaith yn wrthrychol, a chynnig her o'r tu allan. Mae’r Bwrdd yn edrych ar effaith y newidiadau mae Cyngor Gwynedd yn eu cyflwyno, ac yn adrodd ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd wedi newid.

Gweld gwybodaeth am aelodaeth a gwaith y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb

Fersiwn PDF o'r Cynllun

Cliciwch ar y linc isod i lawrlwytho fersiwn pdf o'r Cynllun:

Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 (fersiwn pdf) (yn agor mewn tab newydd)

Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28: Adolygiad 2025/26 (yn agor mewn tab newydd)

Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28: Adolygiad 2024/25 (yn agor mewn tab newydd)

(Dyma’r pdf o’r cynllun lansiwyd yn 2023. Ers hynny mae adolygiadau blynyddol wedi eu cynnal, a gwelir y fersiwn ddiweddaraf yn y teils uchod).