Arolwg Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd

Dyddiad cau: 24 Mawrth, 2026

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi cychwyn ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Bydd y Cynllun yn cyfarch anghenion tai, cyflogaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol trigolion Gwynedd ar ddyddiad ei fabwysiadu hyd at 2039.

 

Eich barn yn bwysig i ni

Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar y materion sy’n bwysig ac yn berthnasol i chi, ac y gall y Cynllun Datblygu Lleol eu dylanwadu. Mae’r materion hyn yn cwmpasu ystod eang o ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. 

Rydym wedi paratoi holiadur sydd yn rhoi cyfle i chi rannu eich barn ar faterion perthnasol i Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd. Mae darparu ymatebion manwl a chynnwys eglurhad llawn yn sicrhau ein bod yn deall beth sy’n flaenoriaeth ac yn bwysig i chi.

Bydd yr holiadur yn cau ar 24 Mawrth 2026.

 

Rhoi eich barn

Holiadur ar-lein

I gael copi papur neu mewn fformat arall, cysylltwch gyda’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio:

Dyddiad cau: 24 Mawrth 2026

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae'r ymatebion yma am helpu ni i lunio y Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd. Bydd yna gyfnodau o ymgynghori statudol i ddilyn drwy gydol y daith o baratoi'r cynllun.

Yn dilyn ei fabwysiadu, bydd y Cynllun yn llywio penderfyniadau ar gynigion datblygu ynghyd a chyfarch anghenion a chyfleoedd yr ardal. Prif bwrpas y Cynllun Datblygu Lleol yw rhoi arweiniad ar y mathau o ddatblygiadau sydd yn addas mewn lleoliadau gwahanol.

Yn y cyfamser, a hyd nes y bydd Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd yn cael ei fabwysiadu, bydd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn parhau i ddarparu'r fframwaith bolisi lleol ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.