Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ganllaw Cynllunio Atodol

‘Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru’

Mae Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisiau eich barn chi ynglŷn â Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru’

Gweld CCA Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru


Rhoi eich barn

Cwblhewch y ffurflen ymateb isod er mwyn i roi eich barn ar gynnwys y ddogfen: 

Dychwelwch y ffurflen i:  

Neu gyrrwch eich sylwadau drwy e-bost neu lythyr yn defnyddio y manylion cyswllt uchod. 

Rhaid cyflwyno sylwadau erbyn  4pm, dydd Mercher 9 Chwefror, 2022.

 

Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad?

Yn dilyn yr arysgrif lwyddiannus o Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi paratoi Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar y cyd sy'n rhoi arweiniad a rhagor o fanylion angenrheidiol am bolisïau penodol yn y Cynlluniau Datblygu Lleol. Dylai'r Canllaw hyn, felly, roi mwy o sicrwydd i ymgeiswyr, a'u helpu nhw i baratoi ceisiadau cynllunio addas i'w cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio.