Help efo biliau (trydan, nwy, treth, dŵr)
Gall unrhyw un fynd ar ei hôl hi gyda biliau, ond dydi hi BYTH yn rhy hwyr i ofyn am help.
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni mae'n bosib y gall eich cyflenwr helpu. Cyngor gan Ofgem.
 
Mae Cyngor Gwynedd yn gallu eich helpu gyda biliau’r cartref hefo’r taliadau yma: 
Help efo bil dŵr
 
Help efo bil ffôn a rhyngrwyd
I weld pa gymorth sydd ar gael, ewch i:
 
Cardiau SIM am ddim
Chwilio am help i gael mynediad i’r rhyngrwyd ar eich ffôn symudol? Mae'n bosib cael cerdyn SIM am ddim o lyfrgelloedd Gwynedd. 
- I wneud cais am gerdyn SIM am ddim rhaid bod dros 18 oed ac yn byw, astudio neu weithio yng Ngwynedd.
 
- Mae’r cardiau SIM yn gweithio gyda ffonau neu dabledi sydd a chyswllt cellular (h.y gallu gwneud galwadau ffon).
 
- Mae cardiau SIM O2, Three a Vodafone ar gael, a gallwch wneud cais ar ran unigolyn neu cyfeirio ymlaen.
 
- Gall y cerdyn SIM ei yrru drwy’r post, neu gall unigolyn gasglu’r cerdyn o unrhyw un o lyfrgelloedd Gwynedd trwy drefniant ymlaen llaw.
 
- Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: johneifionparry@gwynedd.llyw.cymru
 
 
Help i fynd ar-lein
Cofiwch ei bod yn bosib cael mynediad am ddim i’r we yn bob un o lyfrgelloedd Gwynedd.  
Neu cysylltwch gyda Gwynedd Digidol i gael help personol i wneud mwy ar lein, neu i gael benthyg dyfais a data:
 
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)
Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng:
 
Cynlluniau Cefnogaeth
I weld y cynlluniau cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Prydain ewch i:
 
Hybiau Cymunedol
Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.