Taliadau Tai Dewisol (DHP)

Pwy all wneud cais am DHP?

Gallwch gael Taliadau Tai Dewisol os ydym yn ystyried eich bod angen cymorth ychwanegol gyda’ch Costau Tai. I dderbyn DHP bydd rhaid i chi fod yn derbyn un o'r canlynol yn barod: 


Beth yw Costau Tai?

Yn arferol, costau tai yw taliadau rhent, ond gall hefyd olygu rhent ymlaen llaw, blaendaliadau, a chostau eraill sy’n gysylltiedig efo tai megis costau symud tŷ. 

Nid yw'r eitemau canlynol yn cael eu cynnwys o dan Taliadau Tai Dewisol:

  • taliadau gwasanaeth anghymwys (e.e. taliadau am danwydd, dŵr poeth neu brydau bwyd)
  • codiadau rhent o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent taladwy, a 
  • rhai sancsiynau a/neu ostyngiadau mewn budd-dal.


Sut i wneud cais am Daliad Tai Dewisol

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a’i dychwelyd i ni cyn gynted ag sydd bosib. Bydd angen i chi anfon unrhyw dystiolaeth gefnogol a manylion eich incwm a gwariant atom hefyd.

Anfonwch y ffurflen yn ôl i ni cyn gynted ag sydd bosib, ac os bydd gennych unrhyw drafferthion neu gwestiynau, cysylltwch â ni.