Telerau ac Amodau ar gyfer hyrwyddiad 'treial cynwysyddion ailgylchu
- Hyrwyddwr yr Hyrwyddiad yw’r Waste and Resources Action Programme (sy’n gweithredu fel WRAP), sy’n Elusen gofrestredig yn y DU (Rhif 1159512) a’i swyddfa gofrestredig yw Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.
- Mae’r gystadleuaeth raffl wobrau hon am ddim ac mae’n agored i breswylwyr 18 mlwydd oed neu hŷn sy’n byw mewn cartref a gafodd ei wahodd i gymryd rhan yn y treial 15 wythnos ‘Treialu cynwysyddion newydd ar gyfer eich ailgylchu’ rhwng dydd Llun, 24 Mawrth a dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2025. Uchafswm o un cais fesul cyfeiriad eiddo. Ni chaniateir i gyflogeion WRAP, Cyngor Gwynedd, nac aelodau o’u teuluoedd nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r Hyrwyddiad mewn unrhyw ffordd neu sy’n helpu i drefnu’r Hyrwyddiad gymryd rhan ynddo.
- O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, ystyrir eich bod wedi derbyn y telerau ac amodau hyn felly darllenwch nhw’n ofalus cyn cymryd rhan yn yr Hyrwyddiad.
- Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch drwy gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad yn cael ei gadw a’i brosesu gan yr Hyrwyddwr yn unol â Pholisi Preifatrwydd WRAP: https://wrapcymru.org.uk/cy/polisi-preifatrwydd
- Mae’r Hyrwyddiad yn dechrau ddydd Sadwrn, 21 Mehefin 2025 am 00:01 (BST) a daw i ben am 23:59 ddydd Gwener, 4 Gorffennaf 2025.
- Rhaid i’r cynigion gael eu derbyn ar ôl 00:01 (BST) ddydd Sadwrn, 21 Mehefin 2025 a chyn 23:59 (BST) ddydd Gwener, 4 Gorffennaf 2025. Ni fydd cynigion a dderbynnir y tu allan i’r cyfnod hwn yn ddilys.
- I gymryd rhan, mae’n rhaid i chi:
- gwblhau’r arolwg ar-lein a hyrwyddir ar wefan Cyngor Gwynedd, ac
- ysgrifennu eich enw, cyfeiriad ebost a chod post ar y ffurflen lle mae’n gofyn amdanynt.
- Bydd un enillydd gwobr a fydd yn cael ei ddewis ar hap ddydd Llun, 7 Gorffennaf 2025 gan WRAP o blith yr holl gynigion dilys.
- Y wobr a fydd yn cael ei rhoi i’r enillydd yw Cerdyn Rhodd One4all gwerth £50.
- Cysylltir â’r enillydd erbyn 16:00 ddydd Mercher, 9 Gorffennaf 2025 trwy’r cyfeiriad ebost a wnaethant ei nodi ar y ffurflen arolwg a gyflwynwyd.
- Rhaid i’r enillydd roi prawf adnabod i’r Hyrwyddwr ynghyd â phrawf o’u cyfeiriad cartref er mwyn cadarnhau eu bod yn gymwys cyn cael eu cadarnhau’n enillydd a chyn y trefnir i’r wobr gael ei danfon. Gall hyn gynnwys trwydded yrru’r DU, bil cyfleustodau diweddar (e.e. nwy, dŵr, trydan), bil Treth y Cyngor diweddar, neu gytundeb tenantiaeth dilys.
- Os na fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn ymateb gan enillydd o fewn 72 awr i’w ymgais gyntaf i gysylltu, os bydd yr enillydd yn gwrthod ei wobr, neu os yw’r ymgais a dynnwyd yn y raffl yn cael ei phennu’n annilys neu’n groes i’r telerau ac amodau hyn, yna bydd y wobr yn cael ei fforffedu a bydd hawl gan yr Hyrwyddwr i ddewis enillydd arall.
- Caiff y wobr ei danfon i’r enillydd i’w cyfeiriad cartref yng Ngwynedd, drwy gyfrwng dull postio ‘Llofnod ar ddanfon’, fel ‘Royal Mail Signed For®'.
- O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, rydych yn rhoi eich caniatâd i WRAP a Chyngor Gwynedd grybwyll eich teitl, cyfenw a thref mewn unrhyw gyfathrebiadau am raffl wobrau’r treial.
- Nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r wobr.
- Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gynnig gwobr amgen o’r un gwerth neu werth uwch pe na fyddai’r wobr wreiddiol ar gael am resymau y tu hwnt i’w reolaeth resymol. Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo’r wobr ac ni chaniateir ei chyfnewid am arian parod na gwobrau eraill.
- Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl ar unrhyw adeg, ac o bryd i’w gilydd, i addasu neu ganslo’r Hyrwyddiad dros dro neu’n barhaol, heb rybudd ymlaen llaw o ganlyniad i resymau y tu hwnt i’w reolaeth.
- Ni fydd yr Hyrwyddwr yn atebol am fethiant unrhyw ymgeision i gymryd rhan, beth bynnag fo’r achos dros hynny.
- Nid yw'r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, colled, rhwymedigaethau, anaf neu siom a achoswyd neu a ddioddefwyd o ganlyniad i gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad neu dderbyn y wobr. Ni fydd unrhyw beth yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i'w esgeulustod.
- Os bydd unrhyw ddarpariaeth o'r telerau a'r amodau hyn yn cael eu gwneud yn annilys gan unrhyw gyfraith, rheol, gorchymyn neu reoleiddio unrhyw lywodraeth, neu drwy benderfyniad terfynol unrhyw lys ag awdurdodaeth gymwys, ni fydd yr annilysrwydd hwnnw yn effeithio ar orfodadwyedd unrhyw ddarpariaethau eraill.
- Mae penderfyniad y panel beirniaid yn derfynol, ac ni chymerir rhan mewn unrhyw ohebiaeth bellach.
- Mae gwerth y cerdyn rhodd ar gyfer y raffl wedi’i ariannu i Gyngor Gwynedd gan Lywodraeth Cymru; nid yw'n cael ei dalu amdano gan ddefnyddio arian Treth Cyngor preswylwyr.
Yn ôl i Gwybodaeth Treial Ailgylchu