Treial bagiau ailgylchu
Diolch yn fawr i’r rhai ohonoch a gymerodd ran yn y treial 15 wythnos yn ddiweddar, lle roedd cartrefi yn ardal y treial yn cael dau fag a bocs glas newydd er mwyn cyflwyno eu hailgylchu.
Daeth y treial ben dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2025.
Beth ddylwn ei wneud rŵan?
Os gwnaethoch chi gymryd rhan yn y treial, efallai y byddwch yn dewis parhau i ddefnyddio eich cynwysyddion newydd i gyflwyno eich ailgylchu ar eich diwrnod casglu arferol, neu fynd yn ôl i ddefnyddio eich Cartgylchu presennol.
Daliwch eich gafael ar y ddau set o gynwysyddion nes byddwn wedi gwerthuso’r treial a chadarnhau pa gynwysyddion i’w defnyddio yn y dyfodol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Rhwng dydd Sadwrn, 21 Mehefin a dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2025, fe wnaethom gynnal arolwg treial gyda thrigolion a chael adborth gan ein criwiau casglu, i ddarganfod eu barn am ddefnyddio’r cynwysyddion newydd.
Byddwn yn dadansoddi’r canfyddiadau ac yn ystyried y camau nesaf i’w gwneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr ailgylchu cymaint o’u gwastraff o’u cartrefi â phosibl.
Canlyniadau’r raffl wobrau!
Diolch eto i’r rhai ohonoch a ddywedodd eich barn wrthym am y treial drwy lenwi ein harolwg sydyn. Byddwn yn cysylltu gyda’r sawl a ddewiswyd ar hap o blith yr holl arolygon wedi’u cwblhau a gyflwynwyd ac wedi ennill y Cerdyn Rhodd One4all gwerth £50.
Sylwer: mae gwerth y cerdyn rhodd ar gyfer y raffl wedi’i ariannu i Gyngor Gwynedd gan Lywodraeth Cymru; nid yw'n cael ei dalu amdano gan ddefnyddio arian Treth Cyngor preswylwyr.
Cwestiynau a ofynnir yn aml
Mae nifer o gynghorau lleol yng Nghymru eisoes yn defnyddio bagiau a bocs tebyg i’r rhai rydym am eu treialu, ac maent wedi dangos eu bod yn gweithio’n dda.
Mae’r bagiau’n fwy na’r bocsys cartgylchu presennol, ac mae’r deunydd yn fwy hyblyg, sy’n golygu y gallwch roi mwy o eitemau yn y bagiau nag y gellir eu rhoi yn y bocsys presennol.
Mae’r bagiau’n cymryd llai o le na’r cartgylchu ac felly maent yn haws eu storio, a dylai hyn fod yn fuddiol i breswylwyr sy’n byw mewn cartrefi lle mae lle storio’n broblem, fel tai teras a fflatiau.
Mae’r bagiau hefyd yn ysgafnach, ac nid oes fflap ar y bocs newydd, felly dylai hyn ei gwneud yn haws i griwiau godi a gwagio eu cynnwys ar ein cerbydau casglu.
Bydd y bagiau a’r bocs yn rhatach i’w cyfnewid na’r cartgylchu, pan fyddan nhw’n mynd ar goll neu’n torri.
Mae tua 2,000 o gartrefi yng Ngwynedd wedi eu dewis i fod yn rhan yn y treial.
Mae’r cyfeiriadau sydd wedi eu dewis mewn ardaloedd gwahanol er mwyn i gael dealltwriaeth dda a theg o sut byddai'r drefn newydd yn effeithio ar gartrefi mewn ardaloedd trefol, gwledig ac ati.
Os ydi eich cartref chi i wedi ei ddewis gymryd rhan yn y treial, byddwn yn danfon dau fag ailgylchu ac un bocs ailgylchu newydd, ynghyd â llythyr a thaflen.
Bydd pob cartref sydd yn rhan o'r treial wedi derbyn y pecyn.
Mewn 2,000 o gyfeiriadau mae'r treial yn cael ei gynnal felly os nad ydych wedi derbyn pecyn nid yw eich cyfeiriad yn rhan o'r treial y tro yma.
Os ydych yn teimlo eich bod angen mwy o fagiau er mwyn dal eich ailgylchu gallwch archebu mwy ar-lein:
Archebu offer ailgylchu newydd
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
neu ffoniwch 01766 771000.
Cofiwch arbed lle yn eich bagiau drwy wasgu eich eitemau metel, plastig a chartonau’n ofalus pan fo’n bosibl, a thorri cardfwrdd, i sicrhau eu bod yn ffitio.
Os ydi eich bagiau neu focsys ailgylchu yn cael ei difrodi neu yn mynd ar goll, gallwch archebu rhai newydd:
Archebu offer ailgylchu newydd
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
neu ffoniwch 01766 771000.
Er bod y bagiau newydd wedi’u pwyso ac yn annhebygol o chwythu i ffwrdd mewn gwyntoedd cryf, efallai y byddwch yn dewis eu gosod rhwng eich bin gwastraff bwyd brown a’ch bocs glas ar gyfer gwydr ar eich diwrnod casglu.
Cofiwch hefyd gau’r fflapiau a'r velcro ar eich bagiau, a chau’r caead ar eich bocs, i atal eich ailgylchu rhag dianc.
Os ydi eich bagiau neu focsys ailgylchu yn cael ei difrodi neu yn mynd ar goll, gallwch archebu rhai newydd:
Archebu offer ailgylchu newydd
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
neu ffoniwch 01766 771000.
Os na chafodd eich bag/bocs ei wagio ar eich diwrnod casglu rhowch wybod i ni.
Rhoi gwybod am sach/ bocs heb ei wagio
(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Gallwch hefyd gysylltu drwy ffonio 01766 771000.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir, ac nad yw eich cynwysyddion ailgylchu’n cynnwys deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall unrhyw un wneud camgymeriad.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn cofiwch gysylltu â ni:
Ymholiad ailgylchu
Neu ffoniwch 01766 771000
Os byddwch yn sylwi eich bod wedi rhoi rhywbeth yn y cynhwysydd anghywir ar ôl i ni gasglu eich ailgylchu, peidiwch â phoeni – ond ceisiwch ei wneud yn iawn y tro nesaf.
Daliwch eich gafael ar eich cartgylchu tra bydd y treial yn cael ei gynnal, ond peidiwch â’i ddefnyddio.
Ar ddiwedd y treial gallwch ddewis unai cario ymlaen i ddefnyddio'r bagiau ailgylchu neu fynd yn ôl i ddefnyddio'r cartgylchu presennol.
Daliwch eich gafael ar y ddau set o gynwysyddion nes byddwn wedi gwerthuso’r treial a chadarnhau pa gynwysyddion i’w defnyddio yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth
Os ydych angen mwy o wybodaeth am y treial, neu os ydych eisiau cyngor ynglŷn ag ailgylchu eich gwastraff, cysylltwch â ni:
Ymholiad ailgylchu
Neu ffoniwch 01766 771000