Strategaeth Toiledau Cyhoeddus

Fel holl gynghorau Cymru, mae yna ddyletswydd statudol ar Wynedd i asesu anghenion y gymuned leol dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: Darparu Toiledau. Mae gofyn ar pob awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol.

Mae Cabinet Gwynedd wedi mabwysiadu adolygiad o’r strategaeth gafodd ei mabwysiadu nol yn 2019 sy’n amlinellu sut mae’r Cyngor yn bwriadu sicrhau darpariaeth addas o doiledau cyhoeddus ar draws y sir er gwaethaf y pwysau cyllidebol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r strategaeth yn anelu i hyrwyddo’r nifer o doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd ar draws y sir.

Mae’r Strategaeth Toiledau Lleol yn anelu i sicrhau:

  • Darpariaeth o gyfleusterau glân, diogel wedi eu cynnal yn briodol;
  • Uchafu'r argaeledd toiledau drwy bartneriaeth gyda'r Cyngor a darpariaeth arall;
  • Hysbysu a hyrwyddo gwybodaeth am ddarpariaeth toiledau drwy wefannau a chyfryngau eraill;
  • Cyfleusterau sy'n hawdd dod o hyd iddynt gydag arwyddion cyfeirio da ac arwyddion gwybodaeth cyfleusterau unigol;
  • Asesu argaeledd a dosbarthiad cyfleusterau yn seiliedig ar alw;
  • Darpariaeth addas o fewn y gyllideb sydd ar gael. 

Mae’r strategaeth hefyd yn tynnu sylw at ddatblygiadau pwysig fel toiledau ‘Changing Places’ ar gyfer pobl gyda anableddau.

Mae gwybodaeth am holl doiledau Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Thoiledau Cymunedol ar draws y sir ar gael ar fap yma:

 

www.gwynedd.llyw.cymru/map 

 

Dogfennaeth

 

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: toiledau@gwynedd.llyw.cymru