Polisiau caffael

Blaenoriaethau Caffael 

Mae’r Cyngor yn gwario dros £140m y flwyddyn ar gaffael, neu brynu, gwahanol nwyddau a gwasanaethau o gyllidebau refeniw. Yn 2021/22, roedd pryniant o nwyddau a gwasanaethau lleol gyfwerth â £85miliwn i’r economi leol. 

Yn 2021/22, fe welwyd lleihad yn y ganran o wariant lleol i 61% i’w gymharu â 63% y flwyddyn flaenorol. Cyflwynwyd trefniadau newydd i geisio prynu nwyddau a gwasanaethau mewn ffyrdd mwy arloesol ac effeithlon, a chymerwyd camau er mwyn hwyluso gallu busnesau i gystadlu am gytundebau. 

Yn 2022/23 byddwn yn parhau gyda’r gwaith hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth busnesau am drefn caffael y Cyngor gan ddarganfod ffyrdd pellach i’w cefnogi i gyflawni’r gwasanaethau rydym eu hangen.

 

Polisi caffael cynaladwy

Pwrpas y polisi yw cefnogi gwasanaethau drwy arweiniad polisi, canllawiau a chefnogaeth gorfforaethol i sicrhau bod y Cyngor yn caffael mewn ffordd gyfrifol a chynaladwy, ac yn uchafu cyfleoedd i wneud y defnydd gorau bosib o wariant y Cyngor er mwyn gwella perfformiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol o fewn y Sir.

 

Datganiad caethwasiaeth fodern

Yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod bod cyfrifoldeb arno fel cyflogwr i fod yn ymwybodol o’r potensial ar gyfer achosion o gaethwasiaeth fodern ac i adrodd ar achosion o’r fath i’r cyrff perthnasol. 

 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01766 771000 neu caffael@gwynedd.llyw.cymru