Cynllun Cydraddoldeb

Pwrpas Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw lleihau anghydraddoldeb rhwng pobl sydd â nodweddion cydraddoldeb a pobl sydd ddim  yn rhannu’r nodwedd yma.  Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys: 

  • Oedran
  • Ailbennu rhywedd
  • Rhyw
  • Hil – yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
  • Anabledd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Crefydd neu gred – gan gynnwys diffyg cred
  • Priodas a phartneriaeth sifil

 

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Gwynedd 2020-24 yn cynnwys 5 Amcan:

  • Cryfhau a dyfnhau capasiti ac ymrwymiad staff ac Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd ym maes Cydraddoldeb, trwy sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir
  • Gwella’r wybodaeth sydd gennym gan ac am bobl gyda nodweddion gwarchodedig
  • Adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i wreiddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb fel arf i sicrhau gwell penderfyniadau
  • Gweithredu i leihau'r bwlch tâl rhwng y rhywiau ac adnabod unrhyw fwlch tâl ar sail unrhyw nodwedd arall
  • Gweithredu i ddenu amrediad o ymgeiswyr am swyddi er mwyn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Os ydych chi angen unrhyw un o'r dogfennau uchod mewn fformat neu iaith arall cysylltwch â cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru .