Strategaeth Toiledau Cyhoeddus

Mae Cabinet Gwynedd wedi mabwysiadu strategaeth sy’n amlinellu sut mae’r Cyngor yn bwriadu sicrhau darpariaeth addas o doiledau cyhoeddus ar draws y sir er gwaethaf y pwysau cyllidebol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r strategaeth, sydd wedi ei gefnogi gan Cabinet Cyngor Gwynedd, yn anelu i hyrwyddo’r nifer o doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd ar draws y sir.

Fel holl gynghorau Cymru, mae yna ddyletswydd statudol ar Wynedd i asesu anghenion y gymuned leol dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: Darparu Toiledau. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ar y mater gan geisio barn trigolion, busnesau ac ymwelwyr sy’n defnyddio’r toiledau.

 

Mae’r Strategaeth Toiledau Lleol yn anelu i sicrhau:

  • Darpariaeth o gyfleusterau glân, diogel wedi eu cynnal yn briodol;
  • Uchafu'r argaeledd toiledau drwy bartneriaeth gyda'r Cyngor a darpariaeth arall;
  • Hysbysu a hyrwyddo gwybodaeth am ddarpariaeth toiledau drwy wefannau a chyfryngau eraill;
  • Cyfleusterau sy'n hawdd dod o hyd iddynt gydag arwyddion cyfeirio da ac arwyddion gwybodaeth cyfleusterau unigol;
  • Asesu argaeledd a dosbarthiad cyfleusterau yn seiliedig ar alw;
  • Darpariaeth addas o fewn y gyllideb sydd ar gael. 

Mae’r strategaeth hefyd yn tynnu sylw at ddatblygiadau pwysig fel toiledau ‘Changing Places’ ar gyfer pobl anabl.

Mae manylion am holl doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd yng Ngwynedd bellach i’w gweld yn hwylus ar fap ar wefan y Cyngor. Mae gwybodaeth am holl doiledau Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Thoiledau Cymunedol ar draws y sir ar gael yma:

 

www.gwynedd.llyw.cymru/map 

 

Dogfennaeth

 

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: 
toiledau@gwynedd.llyw.cymru