Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24
Pwrpas Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw lleihau anghydraddoldeb rhwng pobl sydd â nodweddion cydraddoldeb a pobl sydd ddim yn rhannu’r nodwedd yma. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys:
- Oedran
- Ailbennu rhywedd
- Rhyw
- Hil – yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
- Anabledd
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Cyfeiriadedd Rhywiol
- Crefydd neu gred – gan gynnwys diffyg cred
- Priodas a phartneriaeth sifil
Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Gwynedd 2020-24 yn cynnwys 5 Amcan:
- Cryfhau a dyfnhau capasiti ac ymrwymiad staff ac Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd ym maes Cydraddoldeb, trwy sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir
- Gwella’r wybodaeth sydd gennym gan ac am bobl gyda nodweddion gwarchodedig
- Adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i wreiddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb fel arf i sicrhau gwell penderfyniadau
- Gweithredu i leihau'r bwlch tâl rhwng y rhywiau ac adnabod unrhyw fwlch tâl ar sail unrhyw nodwedd arall
- Gweithredu i ddenu amrediad o ymgeiswyr am swyddi er mwyn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu
Copi o’r Cynllun
Copi Word, heb luniau
Crynodeb, sef fersiwn hawdd ei ddarllen
Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb 2020-21
Gwybodaeth Cyflogaeth 2020-21
Os ydych chi angen unrhyw un o'r dogfennau uchod mewn fformat neu iaith arall cysylltwch â cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru .