Pleidleisio Hygyrch

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, angen help i gofrestru i bleidleisio neu i fwrw pleidlais, cysylltwch â Thîm Etholiadau’r Cyngor:

Ffôn: 01286 679623

E-bost: etholiadau@gwynedd.llyw.cymru 


Pleidleisio i Bawb

Dylai pleidleisio ac etholiadau fod yn hygyrch ac yn hawdd i bawb sydd â’r hawl gyfreithiol i bleidleisio, p’un a oes ganddynt anabledd ai peidio.

Rydym yn deall bod angen mwy o gymorth ar rai pobl nag eraill i ddefnyddio eu pleidlais. Mae Tîm Etholiadau’r Cyngor ar gael i ddarparu cymorth ac arweiniad, a byddant yn hapus i’ch helpu mewn unrhyw ffordd sy’n briodol.


Cymorth mewn Gorsafoedd Pleidleisio

Er mwyn helpu pleidleiswyr, bydd y canlynol ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio:

  • Hysbysiadau print bras o’r papur pleidleisio
    (Gellir eu defnyddio er gwybodaeth, ond rhaid i chi fwrw  eich pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith)
  • Papur pleidleisio llafar
    (Bydd cod QR ar gael ar daflen yn yr orsaf bleidleisio, sy’n cysylltu â recordiad sain o’r papur pleidleisio yn cael ei ddarllen ar lafar)
  • Dyfais gyffyrddadwy
    (Ar gael i helpu pleidleiswyr dall neu’r rhai sydd â nam ar eu golwg i bleidleisio’n annibynnol.Gofynnwch i aelod o staff yn yr orsaf bleidleisio am y ddyfais hon.
  • Gallwch ofyn am gymorth gan y Swyddog Llywyddu (y person sy’n gyfrifol am yr orsaf bleidleisio). Mae’r Swyddog Llywyddu wedi’i rwymo’n gyfreithiol gan yr angen am gyfrinachedd, a bydd eich pleidlais yn aros yn gwbl gyfrinachol.